Ar-lein, Mae'n arbed amser

Hawliau Tramwy

Dywedwch wrthym am unrhyw broblem ar hawl dramwy gyhoeddus gan gynnwys:

  • Arwyddion
  • Anifeiliaid
  • Rhwystrau
  • Llystyfiant wedi gordyfu
  • Camddefnydd llwybr
  • Aredig neu gnydio
  • Arwyneb y llwybr
  • Draenio
  • Gatiau, tramwyfeydd a rheiliau llaw

Rhoi gwybod am broblem Hawliau Tramwy

Mae hawliau tramwy cyhoeddus yn agored i bawb. Gallant fod yn ffyrdd, llwybrau neu draciau a gallant redeg trwy drefi, cefn gwlad neu eiddo preifat. Mae gennych yr hawl i gerdded ar eu hyd. Mae rhai hawliau tramwy hefyd ar agor i farchogion, beicwyr neu fodurwyr. Mae tri math o hawliau tramwy cyhoeddus:

  • Llwybrau troed cyhoeddus: ar gyfer cerddwyr yn unig
  • Llwybrau ceffylau cyhoeddus: ar gyfer cerddwyr, marchogion a beicwyr
  • Cilffyrdd cyhoeddus: ar gyfer cerddwyr, marchogion, beicwyr a cherbydau modur; yn amodol ar natur y ffordd.

Os hoffech ddarganfod a yw llwybr yn Hawl Tramwy Cyhoeddus, gallwch gysylltu â ni neu gyfeirio at y 'Map Diffiniol', sef y cofnod cyfreithiol swyddogol o hawliau tramwy cyhoeddus.

Gallwch wneud apwyntiad i archwilio’r Map Diffiniol ac mae wedi'i leoli yn:

Y Ganolfan Ddinesig
Stryd y Castell
Merthyr Tudful
CF47 8AN

Defnyddiwch y ffurflen 'Cysylltwch â Ni' ar waelod y dudalen hon i drefnu apwyntiad.

Cysylltwch â Ni