Ar-lein, Mae'n arbed amser

Hyfforddiant i blant ar groesi'r ffordd

Kerbcraft

Mae Kerbcraft wedi bod yn rhedeg yn llwyddiannus yn nifer o ysgolion Merthyr Tudful ers mis Medi 2002 ac wedi cael croeso cynnes gan yr ysgolion sy’n cyfranogi.

Ariennir y cynllun gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd, ac fe’i cynhelir am hyd at 12 wythnos ddilynol ymhob ysgol.

Bydd Kerbcraft yn addysgu plant 5-7 oed sut i fod yn  gerddwyr mwy diogel trwy fynd â hwy i gerdded ar ffyrdd go iawn a dangos iddynt sut y gall y penderfyniadau a’r ymddygiad cywir eu cynorthwyo i gadw’n ddiogel.

Bydd gwirfoddolwyr hyfforddedig yn mynd â’r plant allan o’r ysgol mewn grwpiau o ddim mwy na thri, i ddysgu’r tri phrif sgil:

1. Dewis Mannau a Llwybrau Diogel i Groesi’r Ffordd

Cynorthwyir plant i adnabod peryglon a chanfod mannau croesi diogel.

2. Croesi’n Ddiogel ger Ceir wedi’u Parcio

Addysgir plant sut i ddefnyddio strategaeth ddiogel ar gyfer croesi’r ffordd ger

ceir wedi’u parcio – lle na ellir eu hosgoi.

3. Croesi’n Ddiogel ger Cyffyrdd

Caiff plant gyflwyniad i broblemau sy’n gysylltiedig â chyffyrdd syml a chymhleth, ac addysgir strategaethau iddynt fel y byddant yn gallu edrych yn systematig i bob cyfeiriad.

Hyfforddir pob sgil mewn sawl man gwahanol dros gyfnod o 4-6 wythnos, mewn cydweithrediad â'r ysgol ac yn unol â’i hamserlen.

Os ydych yn rhiant neu’n llywodraethwr ysgol ac yn dymuno cael rhagor o wybodaeth am gychwyn cynllun Kerbcraft yn eich ysgol, cysylltwch â’r Cydlynydd ar y rhif neu’r ebost isod.

Cysylltwch â Ni