Ar-lein, Mae'n arbed amser

Beicio

Cynllun Safonau Cenedlaethol Beicio

Ar hyn o bryd, mae Adran Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cynnig cyfle i holl ysgolion cynradd y Fwrdeistref Sirol i gynnal Cwrs Safonau Cenedlaethol lefel 1 a 2 i blant 6 oed. Mae’r cwrs hwn wedi disodli’r hen gwrs Hyfedredd Beicio.

Bydd Lefel 1 fel arfer yn digwydd ar fuarth yr ysgol, ac fe’i cynlluniwyd i ddatblygu sgiliau rheoli beic a dealltwriaeth sylfaenol i allu gyrru ar y ffordd. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys esgyn a dod oddi ar feic, cychwyn, reidio mewn llinell syth, edrych yn ôl a rhoi arwydd heb simsanu.

Bydd Lefel 2 fel arfer yn digwydd ar y ffordd, gan gychwyn â ffyrdd a chyffyrdd tawel, gan symud ymlaen yn raddol at ffyrdd a chyffyrdd prysurach wrth i sgiliau, dealltwriaeth a hyder yr hyfforddeion gynyddu.  Bydd yr hyfforddeion yn dysgu nifer sylweddol o symudiadau a sgiliau, ac maent yn cynnwys troi i’r dde a’r chwith o isffordd i ffordd  fawr ac i’r gwrthwyneb, pasio cerbydau wedi’u parcio, pasio ffyrdd ymyl, deall ble ddylent fod ar y ffordd, a gallu egluro penderfyniadau a wneir wrth reidio ac felly dangos dealltwriaeth o strategaeth reidio’n ddiogel.

Mae angen beiciau sy’n addas i’w defnyddio ar y ffordd, helmedau a siacedi gwelededd uchel (ar gyfer unrhyw weithgareddau ar y ffordd).

Hyfforddir y plant gan 3 diffoddwr tân lleol sy’n hyfforddwyr cymwys ac yn gwneud y gwaith pan fyddant oddi ar ddyletswydd. Gall y tîm hyfforddi gynnig hyfforddiant hyd at safonau Cenedlaethol lefel 3, hyfforddiant MTB unigol a gwasanaeth cynnal a chadw llawn ar gyfer beiciau. Mae ganddynt dystysgrifau arweinyddion beicio mynydd a chynnal a chadw beiciau MIAS.

Mae’r Adran Diogelwch ar y Ffordd bellach yn bwriadu cyflwyno hyfforddiant Safonau Cenedlaethol lefel 3 yn Ysgolion Uwchradd y Fwrdeistref Sirol.

Mae Lefel 3 ar gyfer y sawl sy’n dymuno beicio ychydig ymhellach gan ddefnyddio ffyrdd prysurach a nodweddion ffordd mwy cymhleth megis cylchfannau (mwy), goleuadau traffig a ffyrdd â sawl lôn. Gwneir yr hyfforddiant hwn ar sail unigol fel arfer, hynny yw, un hyfforddwr ar gyfer un hyfforddai.

Mae rhagor o wybodaeth am y Safonau Cenedlaethol a’r tair lefel ar gael ar adran dolenni’r dudalen hon.

Cysylltwch â Ni

Oeddech chi’n chwilio am?