Ar-lein, Mae'n arbed amser

Patrolau croesi ysgol

Pan welwch Swyddog Patrôl Croesi Ysgol yn camu i’r ffordd o’ch blaen yn dangos yr arwydd AROS, mae’n RHAID i yrwyr AROS i adael pobl i groesi’r ffordd (Rheol 87 Rheolau’r Ffordd Fawr)

Mae’n drosedd yn unol â Deddf Traffig Ffyrdd 1984 os nad ydych yn aros pan fo Swyddog Patrôl Croesi Ysgol yn arwyddo i chi wneud.

Boed glaw neu hindda, bydd y dynion a’r menywod pwrpasol hyn yn croesi’n plant ar draws y ffordd i’r ysgol ac o’r ysgol yn ddiogel pob dydd.

Ar ein ffyrdd prysur heddiw mae angen rhinweddau arbennig i gamu i’r ffordd o flaen traffig a chadw sylw plant hyd nes iddynt groesi’n ddiogel. Er bod y rhan fwyaf o’r gyrwyr yn gwrtais ac yn amyneddgar tra bo’r Swyddogion Patrôl ar waith, mae nifer gynyddol o achosion o yrru peryglus ac ymddygiad bygythiol tuag at y Swyddogion Patrôl wrth eu gwaith.

Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • Methu ag aros o gwbl
  • Gyrru o amgylch y swyddog pan eu bod ar y ffordd
  • Gyrru’n rhy agos at y swyddog
  • Refio’r injan pan fo’r Swyddog Patrôl Croesi Ysgol a’r plant ar y ffordd
  • Defnyddio iaith fygythiol
  • Defnyddio trais corfforol ar adegau

Os nad ydych yn aros gall cosbau posibl gynnwys:

  • Dirwy o hyd at £1,000
  • Tri phwynt cosb ar eich trwydded
  • Gwahardd rhag gyrru

Mae Swyddogion Patrôl Croesi Ysgol yn cyflawni dyletswydd hollbwysig wrth sicrhau bod plant a cherddwyr eraill yn croesi’n ddiogel wrth deithio i’r ysgol ac o’r ysgol. Gyda’r traffig cynyddol ar ein ffyrdd ar draws Merthyr Tudful, mae’n gynyddol bwysig annog modurwyr i yrru’n saff. Gofynnir i yrwyr feddwl am bwysigrwydd rôl Patrôl Croesi Ysgol a’u helpu yn hytrach na’u llesteirio.

Gweithio fel Swyddog Patrôl Croesi Ysgol

Os ydych yn edrych am ychydig o oriau o waith yr wythnos yn yr awyr agored yn cwrdd â llawer o bobl, gallwch feddwl am ddod yn ‘Berson Lolipop’ neu’n Swyddog Patrôl Croesi Ysgol. Yr oriau gwaith yw hyd at 2 awr y dydd, tymor ysgol yn unig. Cysylltwch â ni i ddysgu rhagor.

Cysylltwch â Ni