Ar-lein, Mae'n arbed amser

Dathlu 80 Mlynedd Ers Diwrnod Buddugoliath yn Ewrop

Hoffai’r Cyngor ei wneud yn haws i bobl gynnal partïon stryd i ddathlu 80 mlynedd ers Diwrnod Buddigoliaeth yn Ewrop. Mae’r canllaw hwn yn darparu cyngor ynghlych sut i gynnal parti bach stryd yn eich cymuned / stryd leol. 

Mae’n cynnwys ffurflen gais a ffurflen indemniad i’w cwblhau a’u hanfon yn ôl at EngineeringandTraffic@merthyr.gov.uk er mwyn i chi allu cychwyn trefnu eich parti stryd. 

Hoffai’r cyngor gefnogi partïon stryd ond mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn cyflwyno unrhyw geisiadau ar fyrder a chyn dydd Iau’r 10fed o Ebrill 2025. 

Os hoffech gynnal parti bach stryd i ddathlu Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop, defnyddiwch y ffurflen gais amgaeedig er mwyn rhoi gwybod i’r cyngor am y digwyddiad sy’n cael ei drefnu gennych (parti stryd) a gwneud cais i gau unrhyw hewlydd sydd eu hangen. Er mwyn cynnal parti stryd ar neu o fewn hewl mae’n rhaid gofyn am ganiatâd a derbyn cadarnhad gan y Cyngor er mwyn sicrhau eich bod chi’n gallu cau’r stryd i draffig yn gyfreithiol ac yn ddiogel.

Cysylltwch â Ni