Ar-lein, Mae'n arbed amser

Polisi Trafnidiaeth

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wrth galon tynnu ynghyd llu o bartneriaid i gyflawni rhwydwaith trafnidiaeth sy’n diwallu anghenion preswylwyr lleol, ymwelwyr a busnesau heddiw ac yn y dyfodol.

Mae’r Cyngor yn asesu effaith datblygiadau arfaethedig ar y rhwydwaith trafnidiaeth lleol ac yn ymdrechu i sicrhau bod pob agwedd ar ein hisadeiledd trafnidiaeth yn gweithio i gefnogi economi ac amgylchedd sy’n ffynnu.

Mae’r Cynllun Trafnidiaeth yn gosod ein syniadau am anghenion trafnidiaeth yr ardal yn y dyfodol, ffyrdd o gynyddu’r dewis o drafnidiaeth i breswylwyr lleol a ffyrdd o wella’u mynediad at swyddi, addysg, gofal iechyd a gwasanaethau eraill.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymeradwyaeth ffurfiol i Gynllun Trafnidiaeth Leol Cymoedd De-ddwyrain Cymru. Mae’n gynllun cynhwysfawr sy’n ymdrin â’r cyfnod 2015 - 2020 ac yn adeiladu ar lwyddiant y Cynllun Trafnidiaeth Ranbarthol Sewta blaenorol. Fe’i cynhyrchwyd yn dilyn ymgynghoriad helaeth â’r cyhoedd a’n partneriaid strategol.

Cysylltwch â Ni