Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cwynion am fwyd

Mae’r Adran Iechyd yr Amgylchedd yn ymchwilio i unrhyw gwynion o ran adeiladau bwyd neu gwynion penodol am fwyd. Os ydych am gwyno am sefydliad bwyd y tu allan i Ferthyr Tudful, cysylltwch â’r awdurdod lleol perthnasol.

Wrth gwyno dylech:

  • Gadw’r bwyd amheus heb ei fwyta a’r gwrthrych estron mewn cynhwysydd â chlawr. Os yw’r bwyd yn ddarfodus neu os oes llwydni arno, rhowch yn y rhewgell neu’r oergell hyd nes i ni ei gasglu er mwyn atal dirywio pellach
  • Cadwch unrhyw ddeunyddiau pecynnu sydd gennych, oherwydd y bydd hyn yn rhoi gwybodaeth bwysig megis dyddiadau defnyddio a chodau swmp y bydd ei hangen ar gyfer yr ymchwiliad
  • Lle bo’n bosibl, cadwch y talebau prynu

Cysylltwch â ni dros y ffôn neu ar y cyfeiriad e-bost isod i gofnodi cwyn.

Fel arall gallwch ddod â’ch bwyd amheus atom yn y Ganolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.  Efallai na fydd swyddog ar gael pob tro i’ch gweld ond bydd staff y dderbynfa’n nodi manylion eich cwyn a bydd Swyddog Iechyd yr Amgylchedd yn cysylltu â chi pan fydd ar gael.

Cysylltwch â Ni