Ar-lein, Mae'n arbed amser

Afiechydon heintus

Mae nifer o achosion bach ac achosion unigol o afiechydon sy’n cael eu cludo mewn bwyd a dŵr yn y fwrdeistref pob blwyddyn y mae doctoriaid lleol, yr ysbyty gyffredinol a'r cyhoedd yn adrodd arnyn nhw.

Gwneir ymchwil i bob un o’r achosion hyn a lle bo’n bosibl gwneir ymgais i nodi tarddiad yr haint. Mae’r ymchwil hwn yn arbennig o bwysig pan fo’r achos cyntaf yn arwain at nodi nifer o achosion tebyg a all arwain at gymryd sampl o amryw fwydydd, cyflenwadau dŵr ac ati.

Y brif bryder yw nodi tarddiad unrhyw achos yn gynnar iawn er mwyn sicrhau nad yw’n ymledu ymhellach ac yn effeithio ar niferoedd mawr o bobl. Rhoddir cyngor a gwybodaeth i’r teuluoedd a’r grwpiau y mae’r afiechyd yn effeithio arnyn nhw am sut i gyfyngu ymlediad yr afiechyd ymhlith eu hunain a rhoddir cyngor ar yr angen i beidio â mynd i’r gwaith os yw’n debygol eu bod yn heintus.

Mae trosglwyddo gwybodaeth am afiechydon heintus yn sydyn yn bwysig iawn i gyfyngu’u hymlediad felly mae trosglwyddo gwybodaeth a chymharu data ymhlith awdurdodau lleol a’r proffesiwn meddygol yn gyffredin. Mae hyn wedi arwain at nodi achosion o wenwyn bwyd ac afiechydon eraill ymhlith teithwyr o Brydain a achoswyd mewn gwestai tramor.

Y tarddiad mawr arall o heintiau yw cyswllt pobl ag anifeiliaid, felly caiff siopau anifeiliaid anwes, anifeiliaid fferm a chyswllt â chnofilod eu targedu o ran sylw a chyngor i’r cyhoedd.

Gweithiodd Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd o’r Adran Iechyd y Cyhoedd yn agos ag Iechyd Cyhoeddus Cymru fel rhan o’r tîm rheoli achosion a sefydlwyd i ymchwilio i’r achos o Cryptospridiosis a oedd yn gysylltiedig â phwll nofio ym Merthyr Tudful. Mae adroddiad y tîm rheoli achosion ar gael trwy glicio ar y ddolen ar ochr dde’r dudalen hon.

Rhoddir taflenni cyngor o ran y prif afiechydon y mae’r Adran hon yn ymdrin â nhw a’r materion cysylltiedig.

Cysylltwch â Ni