Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cwyno am sŵn
Adrodd Cwyno am sŵn
Cwyno am sŵn
Mae sain yn rhan o’n bywydau pob dydd a gall godi o ystod eang o ffynonellau neu weithgareddau gan gynnwys siarad, cerddoriaeth, offer, anifeiliaid ac ati. Ar brydiau gall achosi blinder a straen i lawer o bobl a chyfeirir at y seiniau digroeso hyn fel sŵn.
Beth yw’r ffynonellau sŵn mwyaf cyffredin?
- Cŵn yn cyfarth
- Systemau sain
- Teledu
- Partïon tŷ
- Gwaith cynnal a chadw tŷ
- Sŵn cyffredinol yn y tŷ (e.e. cau drysau’n glep, cerdded i fyny grisiau ac ati)
- Offerynnau cerdd
- Safleoedd adeiladu/dymchwel
- Traffig
- Safleoedd diwydiannol
- Tafarndai, clybiau ac ati
Rydym yn derbyn ystod eang o gwynion am sŵn, gan amrywio o aflonyddwch domestig i sŵn diwydiannol, o gŵn yn cyfarth i larymau tresmaswyr a chlybiau nos.
Trwy gysylltu’n agos ag Adran Gynllunio’r Awdurdod, gellir gosod rheoliadau tynn ar ddatblygiadau newydd gan leihau’r posibilrwydd o aflonyddwch a chwynion yn y dyfodol.
Beth sy’n digwydd os ydych yn cwyno i Adran Iechyd y Cyhoedd?
- Byddwn yn cysylltu â’r ddau barti i geisio datrys y broblem yn anffurfiol.
- Bydd dyddiadur sŵn yn cael ei gyflwyno i’r un sy’n cwyno er mwyn ei lenwi â dyddiadau ac amseroedd digwyddiadau aflonyddwch. Os oes angen ymchwil pellach, bydd Swyddog yn ymweld yn ystod amseroedd perthnasol i asesu’r sŵn.
- Efallai bydd angen i swyddogion monitro sŵn pan fo’r broblem yn digwydd a all gynnwys defnyddio offer mesur lefel sain, er mwyn eu galluogi i asesu i ba raddau mae niwsans difrifol ac a oes angen gweithredu statudol.
- Mae angen gadael yr offer monitro sŵn yn eiddo’r un sy’n cwyno weithiau er mwyn iddo gofnodi digwyddiadau sŵn penodol ac i ddadansoddi’r wybodaeth ar ôl y digwyddiad.
- Os ydy ceisiadau anffurfiol i ddatrys y cwynion yn methu, bydd hysbysiad atal yn cael ei gyflwyno dan Adran 80 Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 os gellir casglu digon o dystiolaeth i gefnogi niwsans sŵn statudol.
- Os yw’r troseddwr yn methu â chydymffurfio â’r hysbysiad, gellir cymryd camau yn Llys yr Ynadon.
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn broblem ddifrifol ac mae’n seiliedig yn aml ar sŵn gan gymdogion, nid oes ateb hawdd i’r fath broblemau ond dylai unrhyw un y mae hyn yn effeithio arnyn nhw ddechrau cadw dyddiadur manwl o ddigwyddiadau o’r cyfle cyntaf posibl i’w ddefnyddio fel tystiolaeth yn y llys. Gall y Cyngor neu’r Heddlu wneud cais i Lys yr Ynadon am orchymyn ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn achosion lle mae troseddwr yn peri "aflonyddwch, ofn neu ofid". Mae methu ag ufuddhau i orchymyn yn arwain at ddedfryd o garchar am hyd at 5 mlynedd i oedolion.
Ble i gwyno?
Gellir cwyno am sŵn a llygredd amgylcheddol arall trwy alw heibio i ardal dderbynfa’r Ganolfan Ddinesig ar y manylion isod neu defnyddiwch y ffurflen gysylltu â ni ar ochr y dudalen hon.
Os ceir cwynion am sŵn sy’n digwydd y tu allan i oriau gwaith arferol, gall Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd drefnu i ymweld â’r ardal yn ystod yr oriau perthnasol hynny.
Nid oes gwasanaeth galw allan/wrth gefn at y diben hwn ond mae trefniadau a drefnwyd ymlaen llaw â’r bobl sy’n cwyno wedi bod yn foddhaus hyd yn hyn.