Ar-lein, Mae'n arbed amser

Niwsans

Adrodd ar Niwsans

Niwsans Statudol

Mae ‘niwsans statudol’ yn rhywbeth sydd naill ai’n amharu ar iechyd, er enghraifft yn gallu achosi afiechyd, neu rywbeth sy’n niwsans yn ôl y gyfraith gyffredin, er enghraifft rhywbeth sy’n effeithio ar ddefnydd a mwynhad rhywun o’i gartref/eiddo. Rhaid iddo ddigwydd yn rheolaidd a pharhau am gyfnod afresymol.

Materion sydd wedi’u cynnwys yn y gyfraith niwsans statudol

Mae llawer o fathau o broblemau all achosi ‘niwsans statudol’ yn unol â’r diffiniad yn Adran 80 Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.

  • Sŵn
  • Cyflwr Eiddo
  • Llwch/Stêm/Arogl o eiddo diwydiannol neu fusnes
  • Mwg
  • Mygdarthau/Nwyon
  • Croniadau
  • Pryfed/Anifeiliaid
  • Golau artiffisial
Materion nad ydynt yn debygol o gael eu cynnwys yn y gyfraith niwsans statudol
  • Sŵn o awyrennau
  • Arogl o geginau domestig
  • Sŵn o draffig ffordd
  • Cymdogion yn ffraeo’n afreolaidd
  • Babi’n crio o bryd i’w gilydd
  • Cŵn yn cyfarth o bryd i’w gilydd
Sut caiff niwsans statudol ei bennu?

Pennir niwsans statudol gan un o’n swyddogion iechyd yr amgylchedd, nid yr unigolyn sydd wedi cwyno. Mae’r penderfyniad wedi’i seilio ar yr hyn y byddai ‘person cyffredin’ yn ei dderbyn. Nid ydym felly’n gallu ystyried gweithwyr sifft neu bobl sy’n astudio neu’n sâl.

Byddwn fodd bynnag yn ystyried:
  • amser o’r dydd/nos y mae’r niwsans yn digwydd
  • am ba hyd
  • amledd
  • a yw’r gymdeithas yn ei dderbyn, er enghraifft tân gwyllt ar noson Guro Ffowc, neu glychau eglwys
  • math o ardal.
Beth fyddwn yn ei wneud am eich cwyn

Byddwn yn ymchwilio i unrhyw gwyn yn anffurfiol i ddechrau. Os nad yw’r dull anffurfiol yn gweithio a phrofir niwsans statudol byddwn yn ymdrin â’r mater yn unol â chyfraith niwsans statudol sy’n gynwysedig yn Neddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Dan gyfraith niwsans statudol gallwn roi rhybudd statudol i’r unigolyn sy’n gyfrifol sy’n galw arno i roi diwedd ar y niwsans. Os nad yw’r unigolyn yn gweithredu yn yr amser penodedig bydd yn bosibl eu herlyn.

Nid yw’r Cyngor yn ymateb i gwynion yn unig. Rydym hefyd yn defnyddio dull hynod ragweithiol i atal materion a allai arwain at 'niwsans statudol'. Er enghraifft, mae Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd yn ymgynghori â Swyddogion Rheoli Adeiladu i osgoi neu i gyfyngu problemau niwsans posibl megis llwch neu sŵn cyn iddyn nhw ddigwydd.






Cysylltwch â Ni