Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gofyn am Driniaeth Rheoli Plâu

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i ofyn am Driniaeth Rheoli Plâu.

Mae'r Gwasanaethau Rheoli Pla yn parhau i fod heb ddigon o staff i redeg gwasanaeth llawn. Ar hyn o bryd dim ond triniaethau i ddileu llygod mawr y gallwn eu cynnig. Os oes gennych blâu eraill fe'ch cynghorir i ddod o hyd i gontractwr preifat. Gallwch ddod o hyd I gontractwr yma Find a Pest Controller near me | Search pest control services (bpca.org.uk). Mae'n ddrwg gennym am unrhyw anghyfleustra a achosir.

Mae difodiad pryfed a chnofilod sy’n cludo afiechydon yn rhan sylweddol iawn o wasanaeth yr Awdurdod Lleol i’r gymuned. Ystyrir yn gyffredinol bod llygod mawr a llygod, chwilod du, chwain a chacwn yn annerbyniol yn y cartref neu’r gweithle ac rydym yn darparu gwasanaeth cyflym i wenwyno’r plâu hyn.

Rydym hefyd yn rhoi cyngor a gwybodaeth am sut i’w hatal rhag dychwelyd ac mae gennym y grym i alw ar feddianwyr i gael gwared ar groniadau sy’n cynnal neu’n cadw plâu iechyd y cyhoedd. Mae’r holl wenwynau mae ein staff yn eu defnyddio mor dderbyniol â phosibl i’r amgylchedd, ac mae’u gwenwyndra i rywogaethau eraill yn isel.

Costau Rheoli Plâu

Ni fydd triniaeth yn digwydd oni dderbynnir y taliad yn gyntaf.

Gellir talu trwy fynd i’r Ganolfan Ddinesig neu dros y ffôn â charden credyd neu ddebyd.

Mae hwn yn wasanaeth lle mae ffi neu dâl.

Am wybodaeth ar ffioedd presennol a thaliadau gweler ein tudalen Ffioedd Iechyd Amgylcheddol a Thaliadau.

Gwenyn

Nid oes gan y Cyngor fesurau rheoli gwenyn ar sail amgylcheddol gan eu bod yn hanfodol i les cefn gwlad Cymru.

Os oes gennych haid o wenyn ar eich eiddo, efallai eu bod yn gorffwys a gallan nhw adael ymhen diwrnod neu ddau.

Mae gan Adran Iechyd yr Amgylchedd yr Awdurdod Lleol gyswllt â cheidwaid gwenyn lleol a all, os yw’n briodol, ddod a symud yr haid a rhoi cartref newydd i’r gwenyn.

Os oes gennych ymholiadau cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ar y manylion isod.

Rhaid bod rhywun yn bresennol yn yr eiddo pan fo’n technegwyr yn galw heibio. Ni fyddwn yn mynd i mewn i adeiladau neu gerddi heb fod rhywun gyda ni er diogelwch a sicrwydd y preswylydd a’n hunain.

Targedau ac Amseroedd Ymateb

Os oes gennych lygod mawr yn y tŷ mae hyn yn flaenoriaeth. Bydd y tîm yn anelu at ymateb ac ymweld yr un diwrnod os nad y diwrnod wedyn.

Am bob cais arall bydd y tîm yn ymdrechu i ymateb ymhen 3 diwrnod gwaith.

Plâu mewn Eiddo Cymydog

Os ydy’r broblem plâu sy’n effeithio ar eich eiddo’n dod o eiddo neu dir cyfochrog, nid ydym yn gallu trin hyn heb ganiatâd perchennog yr eiddo neu’r tir.

Efallai hoffech sôn wrth eich cymydog, ond os na, neu os ni ŵyr pwy yw’r perchennog, neu os ydyn nhw’n gwrthod datrys y broblem, efallai bydd camau pellach y gallwn eu cymryd. Rydym yn gallu ymweld â chymydog i roi cyngor, neu gymryd camau ffurfiol lle bo angen.

I Aildrefnu neu Ganslo Ymweliad

I drefnu ail ymweliad, aildrefnu neu ganslo ymweliad ffoniwch y Tîm Rheoli Plâu ar 01685 725000.

Plâu Nid ydym yn eu Trin

Nid ydym yn trin

• Morgrug
• Llwynogod
• Ystlumod
• Gwenyn mêl
• Moch daear
• Gwylanod, colomennod neu adar eraill

Morgrug

Rydym yn eich cynghori i brynu powdr morgrug a’i roi o le mae’r morgrug yn dod er mwyn iddyn nhw gludo’r gwenyn yn ôl i’r nyth.

Llwynogod

Am wybodaeth ddefnyddiol am sut i ddelio â llwynogod mewn gerddi ewch i The Fox Website.

Ystlumod

Mae pob rhywogaeth o ystlum yn warchodedig felly mae’n drosedd tarfu arnyn nhw neu’u nyth.

Gall Cyngor Cefn Gwlad Cymru roi cyngor i chi ar 01248 385500 neu ewch i wefan Bat Conservation Trust.