Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gwagio tanciau septig a charthbyllau

Mewn rhai sefyllfaoedd nid yw’n bosibl cysylltu system ddraenio eiddo â phrif system ddraenio. Mae’r rhan fwyaf o systemau draenio heb fod o’r prif gyflenwad cyffredin mewn ardaloedd gwledig. Mae’n effeithiol os caiff ei rheoli’n gywir. Ar gyfartaledd rydym yn cynhyrchu tua 200 litr o ddŵr gwastraff y dydd. Rhaid i unrhyw system ddraenio allu ymdopi â’r meintiau hyn gan ystyried nifer y bobl yn y tŷ.

Y prif fathau o ddraenio heb fod o’r prif gyflenwad yw:

  • Tanciau septig
  • Carthbyllau
  • Peiriannu triniaeth pecyn
Tanciau Septig

Mae tanc septig i bob pwrpas yn system garthffosiaeth fach. Caiff carthion eu storio mewn tanc dwrglos ag iddo ddwy neu dair siambr lle mae bacteria’n dadelfennu carthion solet i draean o’i gyfaint gwreiddiol. Cedwir solidau sefydlog ac mae hylif clir yn llifo allan trwy ddraenio tir sef suddfan dŵr.

Efallai bod tanciau septig hŷn wedi’u hadeiladu o friciau neu flociau, er bod mathau modern wedi’u ffurfio ymlaen llaw mewn gwydr ffibr wedi’i atgyfnerthu.

I osod tanc septig newydd mae angen caniatâd gan yr adran rheoli adeiladu a chaniatâd i ryddhau hylif gan Asiantaeth yr Amgylchedd, rhif ffôn 08708 506506. Dylid lleoli tanciau septig heb fod llai na 10m i ffwrdd o unrhyw ffos, draen neu ddyfrffordd, heb fod llai na 50m o unrhyw ffynnon neu ddyfrdwll (gellir cynyddu’r pellter hwn ar gyfer amodau penodol i’r safle) ac os yn bosibl heb fod yn agosach na 15m i unrhyw anheddiad.

Cynnal a chadw tanciau septig

Dylid gwagio tanciau septig yn flynyddol i atal llaid rhag casglu. Nid ydym yn gwagio tanciau septig. Os oes angen gwagio’ch tanc cysylltwch â chontractwr preifat sydd wedi cofrestru ag Asiantaeth yr Amgylchedd i gludo gwastraff carthffrwd. Maen nhw wedi’u rhestru mewn cyfeiriaduron masnach megis yellow pages.

Peidiwch â defnyddio cemegau tŷ neu ganyddion yn ormodol gan eu bod yn amharu ar gydbwysedd biolegol y system. Peidiwch â gorlwytho’r system trwy gysylltu draeniau dŵr neu law i danciau septig.

Cofrestru tanciau septig

Dylid cofrestru tanciau septig a peiriannau triniaeth pecyn bach ag Asiantaeth yr Amgylchedd. Y dyddiad cau i gofrestru gollyngiadau i’r tir yw 31 Rhagfyr 2011.

Mae arweiniad pellach ar gofrestru systemau draenio heb fod o’r prif gyflenwad yng Nghymru ar gael O https://naturalresources.wales/media/2880/septic-tank-registration-form.pdf

Mae carthbwll yn danc tanddaearol dwrglos ac yn ôl safonau presennol rhaid i garthbyllau allu dal o leiaf 18,000 litr. Mae haen o fric neu goncrit ar garthbyllau hŷn ac ar rai mwy modern mae haen o blastig, polythen neu ddur. Caiff dŵr brwnt ei storio hyd nes y ceir gwared arno.

Dylid lleoli carthbwll fel nad oes peryg iddo lygru cyflenwadau dŵr, heb fod llai na 10m o ddyfrffordd ac os yn bosibl heb fod yn agosach na 15m i unrhyw anheddiad.

Cynnal a chadw carthbyllau

Dylid gwagio carthbyllau yn ôl y galw. Rhaid pwmpio carthbwll neu fel arall ei wagio gan gontractwr cymwys. Mae’n drosedd i unrhyw un heblaw am gontractwr cymwys wneud hyn. Gwiriwch y lefel yn y tanc yn rheolaidd, peidiwch â gadael iddo orlenwi. Argymhellir gosod dyfais rhybuddio. Gwagiwch y carthbwll ar gyfnodau rheolaidd: bydd y rhain yn dod yn amlach os ydych yn gosod peiriant golchi llestri er enghraifft.

Peiriannau triniaeth pecyn

Yn yr un modd â thanciau septig, mae peiriannau triniaeth pecyn yn gweithio trwy alluogi bacteria naturiol i ddadelfennu’r carthion. Maen nhw fel arfer yn cynnwys rhyw fath o droi’r carthion neu ychwanegu aer at y garthffrwd er mwyn i’r bacteria allu ei ddadelfennu’n fwy effeithiol. Mae angen cyflenwad pŵer yn aml am y rheswm hwn. Maen nhw’n gallu darparu carthffrwd o safon sydd yn llawer haws ei ollwng. Golyga hyn eu bod yn fwy addas i ardaloedd mwy sensitif yn amgylcheddol a dylid eu hystyried cyn tanc septig neu garthbwll.

Gall peiriannau triniaeth pecyn ollwng i ddyfrffordd fel arfer, fodd bynnag bydd angen caniatâd gollwng gan Asiantaeth yr Amgylchedd.

Dilynwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr ar gael gwared ar laid a chynnal a chadw. Gwiriwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr o ran defnyddio deunyddiau glanhau megis cannydd, a pheidiwch â defnyddio’r draeniau i gael gwared ar gemegau, olewau, sylweddau neu hylifau glanhau brwshys paent. Gall y deunyddiau hyn amharu ar y broses drin a gall hyd yn oed gwneud niwed i’r peiriant. Dylid gofalu i atal saim rhag gollwng i’r peiriant triniaeth oherwydd gallai hyn hefyd leihau effeithlonrwydd y broses drin.

Problemau gyda draenio heb fod o’r prif gyflenwad

Anaml iawn y ceir problemau cyhyd â bod y system ddraenio heb fod o’r prif gyflenwad wedi’i chynnal a’i chadw’n gywir a’i defnyddio’n unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr.

Mae’n drosedd dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936 i ganiatáu i garthbwll ollwng neu orlifo. Dylai perchennog neu feddiannwr adeiladau â system fel hyn sicrhau bod y tanc yn ddwrglos ac y caiff ei wagio’n rheolaidd gan gontractwr trwyddedig a fydd yn cael gwared ar y cynnwys mewn gwaith trin carthffosiaeth.

Mae’r Ddeddf hon hefyd yn berthnasol i danciau septig nad ydynt wedi’u cynnal a’u cadw’n gywir sy’n cynhyrchu carthffrwd sy’n niweidiol i iechyd neu’n niwsans.

Os ydy system ddraenio nad yw o’r prif gyflenwad yn llygru dyfrffordd, gall Asiantaeth yr Amgylchedd gymryd camau cyfreithiol dan Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991. Gall hyn arwain at ddirwy o hyd at £20,000 a hyd at 3 mis o garchar.

Os ydy system ddraenio nad yw o’r prif gyflenwad yn gollwng, dylai peiriannwr draenio ddod i gael gwared ar y gwastraff ac i lanhau’r garthffosiaeth. Dylid dod o hyd i achos y gollwng a gwella’r broblem.

Bydd iechyd y cyhoedd yn ymchwilio i gwynion am niwsans o systemau draenio, tanciau’n gollwng neu suddfannau dŵr cam er enghraifft. Gallan nhw ofyn i’r perchennog neu’r perchnogion adfer y broblem. Gall methu â gwneud hyn arwain at gamau cyfreithiol yn erbyn yr unigolyn sy’n gyfrifol dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936 neu Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.

Cysylltwch â Ni