Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gorfodi'r gwaharddiad ysmygu

Daeth y gwaharddiad ysmygu mewn mannau cyhoeddus caeedig a cherbydau i rym yng Nghymru ar 2 Ebrill 2007 ac mae’r gyfraith yn berthnasol i bob man cyhoeddus caeedig a cherbyd gwaith gan gynnwys cerbydau trafnidiaeth gyhoeddus. Gwnaed y gyfraith oherwydd bod mwg ail law yn niweidiol i iechyd pobl.

Mae’r gyfraith hefyd yn cynnwys mannau cyhoeddus sy’n 'sylweddol gaeedig'. Mae rhagor o gyngor ar ystyr hyn ar gael gan Adran Iechyd y Cyhoedd.

Rhaid i bobl sy’n gyfrifol am ardaloedd caeedig a cherbydau atal ysmygu yma. Mae taflen cyngor penodol ar gael i wasanaethau tacsi sydd ar gael trwy glicio ar y ddogfen ar ochr dde’r dudalen hon.

Mae swyddogion gorfodi awdurdodedig y Cyngor yn monitro’r gwaharddiad ymhob man caeedig a sylweddol gaeedig yn ogystal â cherbydau er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

Y dirwyon uchaf yn sgil erlyniad yw:

  • Ysmygu mewn man di-fwg £200 ar y mwyaf
  • Methu ag atal ysmygu mewn man di-fwg £2500 ar y mwyaf
  • Rhwystro swyddog gorfodi’n fwriadol £1000 ar y mwyaf

Bydd cosb benodedig o £50 i unrhyw un sy’n ysmygu mewn adeilad di-fwg.

Gall unrhyw un sy’n dymuno rhoi’r gorau i ysmygu gysylltu â Dim Smygu Cymru ar 0800 085 2219.

Cysylltwch â Ni