Ar-lein, Mae'n arbed amser
Castell Cyfarthfa
Caiff Castell Cyfarthfa ei ystyried yn helaeth fel y tŷ meistr haearn mwyaf crand a chadwedig yng Nghymru. Mae’r adeilad, Rhestredig Graddfa I o arwyddocâd cenedlaethol yn hanesyddol ac yn bensaernïol. Y mae’n gweithredu fel canolbwynt i Barc Cyfarthfa – gerddi helaeth a pharc cyhoeddus sy’n rhestredig o fewn Rhestr Parciau a Thirluniau Hanesyddol Cadw.
Mae Castell Cyfarthfa yn gartref i nifer o gyfleusterau gan gynnwys: Amgueddfa ac Oriel Gelf; Caffi; ac Ysgol Uwchradd Cyfarthfa.
Bydd yr ysgol yn symud allan o’r Castell ym mis Medi 2014 ac felly mae’r Cyngor, ar y cyd â chyrff cenedlaethol a grwpiau lleol o ddiddordeb, wedi ystyried opsiynau i sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r adeilad gyda mynediad wedi ei wella sy’n barhaus fel uchelgais allweddol. Mae’r opsiwn a gaiff ei ffafrio fwyaf yn dynodi ffyrdd o’i ddefnyddio sy’n ymarferol ac yn economaidd wrth gadw treftadaeth adeiledig cyfoethog Merthyr Tudful er budd y gymuned a chenedlaethau’r dyfodol.
Bydd y Cyngor a’i bartneriaid yn datblygu ceisiadau ariannu sydd wedi eu hanelu at ymgymryd ag atgyweirio helaeth o ran ffabrig y Castell yn ogystal ag ehangu’r Amgueddfa a datblygu stiwdios, cyfleusterau cynadledda a digwyddiadau dinesig.
Bydd y gwaith hwn yn annog mynediad i’r cyhoedd at rannau sylweddol o’r Castell ac yn adfywio diddordeb yn yr adeilad, yr Ardal Dreftadaeth ehangach a hanes helaeth Merthyr Tudful. Bydd hyn yn ein galluogi ni i wneud y canlynol:
- cadw ein treftadaeth fel bod cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol yn ei mwynhau a’i phrofi
- helpu pobl i ddysgu am eu treftadaeth eu hunain a threftadaeth pobl eraill
helpu rhagor o bobl, ac amrywiaeth mwy eang o bobl, i gymryd rhan weithredol wrth wneud penderfyniadau am ein treftadaeth a chymryd rhan ynddi