Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi

Ym mis Medi 2023, lansiodd Llywodraeth y DU ‘Gynllun Hirdymor ar gyfer Trefi,’ er mwyn cynorthwyo 55 o drefi’r DU gan gynnwys pedair tref yng Nghymru fel rhan o’r Rhaglen Ffyniant Bro. Cafodd Merthyr Tudful ei dewis a bydd yn derbyn  £20 miliwn mewn cyllid gwaddol dros gyfnod o 10 mlynedd o 2024/25.  Cafodd canllawiau manwl eu cyhoeddi yn Rhagfyr 2023 ar y broses o sefydlu Bwrdd y Dref er mwyn datblygu a darparu Cynllun Hirdymor ar gyfer pob tref.

Bydd Bwrdd y Dref yn cael ei gadeirio’n annibynnol ac yn cynrychioli buddiannau cymunedol, busnesau a sefydliadau cyhoeddus. Bydd rhaid i’r Cynllun Hirdymor y bydd y Bwrdd yn ei ddatblygu cynnwys gweledigaeth 10 mlynedd a chynllun buddsoddi cychwynnol am 3 blynedd.

Mae Llywodraeth y DU yn nodi’r disgwyliadau a’r amserlen ganlynol fel canllaw:

Dylai’r Cyngor, ar y cyfle cyntaf posib apwyntio Cadeirydd ar gyfer Bwrdd y Dref a gwneud hynny mewn ymgynghoriad ag AS lleol.

Dylai’r Cyngor gydweithio â’r Cadeirydd i ffurfio Bwrdd y Dref gan gynnal cyfarfod ddim hwyrach nag 1 Ebrill 2024.

Mae Llywodraeth y DU wedi gofyn i Gynllun Hirdymor Merthyr Tudful gael ei gyflwyno erbyn 1 Awst 2024.

Mae CBS Merthyr Tudful a’r Cadeirydd annibynnol yn sefydlu’r Bwrdd ar hyn o bryd.

Cysylltwch â Ni