Ar-lein, Mae'n arbed amser

Adfywio Canol y Dref

Dyfarnwyd dros £25 miliwn o fuddsoddiad i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i drawsnewid Canol Tref Merthyr Tudful. Nod y Rhaglen Adfywio Canol y Dref, a ariennir gan nifer o ffynonellau ariannu gan gynnwys Rhaglen Blaenau’r Cymoedd, Arian Cyfatebol Targedig a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd (ERDF), yw gwneud y mwyaf o’r fynediad i Ganol y Dref a datblygu amgylchedd croesawgar i breswylwyr ac ymwelwyr.

Yn 2011, gofynnwyd i breswylwyr a busnesau lunio’r rhaglen adfywio. Dros gyfnod o bythefnos, trafododd pobl leol y newidiadau yr oedden nhw’n teimlo yr oedd eu hangen a gan flaenoriaethu’r cynlluniau canlynol i drawsnewid Canol Tref Merthyr Tudful. 

  • Cynllun Gwella Adeiladau
  • Pont a Chyswllt Canolog Afon Taf
  • Mynediad at yr Orsaf Reilffordd
  • Gilar Street
  • Maes Parcio Aml Lawr
  • Sgwâr Penderyn
  • Gwella Dynesiadau at Ganol y Dref

Ers i’r rhaglen gael ei chymeradwyo yn 2012, cyflawnwyd gwaith i weithredu’r cynlluniau allweddol hyn a datblygu Canol y Dref fel sy’n codi awydd ar bobl i weithio, byw ac ymweld ag ef.

Ymhlith y prosiectau a weithredwyd mae:

Cynllun Gwella Adeiladau

Mae’r Cynllun Gwella Adeiladau (CGA) ar gael i fusnesau a leolir yng Nghanol Tref Merthyr Tudful. Mae’r cynllun yn cynnig hyd at 50% o grant ariannu ar gyfer adnewyddiadau a gwelliannau i wyneb blaen adeiladau gan gydymffurfio ag oed ac arddull yr adeilad. O ganlyniad, mae cyflawniadau’r cynllun yn cyfrannu at amgylchedd a gwelliant cyffredinol yr ardal; gan greu canol bywiog a deniadol i’r dref ar gyfer ymwelwyr a buddsoddwyr.

Yr ardaloedd o flaenoriaeth ar gyfer y cynllun oedd:

  • Y Stryd Fawr 
  • Glebeland Street
  • Stryd y Castell
  • Wheatsheaf Lane

Hefyd, cyfrannodd y cynllun £2m tuag at adnewyddu hen neuadd y dref. Y Redhouse yw hwn bellach, ac mae wedi cael ei drawsnewid yn ganolfan menter a chelfyddydau fywiog.

Pont a Ffordd Gyswllt Canolog Afon Taf

Mae Ffordd Gyswllt Canolog Afon Taf yn system ffordd newydd sy’n cysylltu Ardal Ddysgu Merthyr ym Mhont Stryd Penry (a oedd yno eisoes), drwy Avenue De Clichy, dros bont newydd ei chodi a leolir i’r de o Swan Street, ac yna ar hyd ffordd newydd o flaen y Coleg a plaza newydd ddatblygedig y coleg. Mae llawer o’r goleuadau traffig wedi eu cymryd oddi yno â’r ffordd wedi ei dynodi’n unffordd, yn debyg i gylchfan, a’i chyfyngu i gyflymder o 20milltir yr awr. Mae hyn yn sicrhau llif parhaus traffig o gwmpas system y ffordd, lonydd blaenoriaeth i fysiau a gwell mynediad at Ganol y Dref. Mae’r system arloesol droellog hon wedi trawsnewid y dref yn llwyr a lleddfu tagfeydd traffig yn sylweddol.

Mynediad at yr Orsaf Reilffordd

Mae mynediad o’r Orsaf Reilffordd drwy Masonic Street wedi ei hehangu er mwyn creu amgylchedd mwy diogel a glân sy’n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio. Mae cyn adeilad y Clwb Rheilffordd wedi ei chwalu fel rhan o’r datblygiad, gan greu gwell mynediad at Faes Parcio Broad Street a’r Ardal Gaffi, a’i wneud yn haws i symud o gwmpas ochr ddeheuol y dref.

Gilar Street – Llys Janice Rowlands

Dros y blynyddoedd diweddar, mae’r ardal o gwmpas Ffynnon Goffa Robert a Lucy Thomas wedi ei datblygu i greu gwagle cymunedol ble y cynhaliwyd digwyddiadau gan gynnwys y Nadolig a Chyfnewid y Fflam Olympaidd. Mae’r ardal wedi ei datblygu ymhellach bellach, gan ehangu’r gwagle digwyddiadau i’r maes parcio bach ar ochr chwith Gilar Street. Mae’r ardal digwyddiadau mwy o faint wedi galluogi’r dref i ddenu amrywiaeth ehangach o farchnadoedd.

Maes Parcio Aml Lawr y Castell

Mae Maes Parcio Aml Lawr newydd wedi ei ddatblygu yn hanner isaf Maes Parcio presennol Stryd y Castell y tu ôl i Dŷ Oldway. Mae lle parcio ychwanegol yno i 250 o gerbydau gan gynnwys 12 bae anabl. Mae CCTV yn y maes parcio a grisiau agored sy’n gwneud parcio ym Merthyr Tudful yn haws ac yn fwy diogel.

Sgwâr Penderyn

Fel rhan o ddatblygiad yr Ardal Dreftadaeth mae’r sgwâr dinesig y tu allan i Hen Neuadd y Dref, sydd newydd ei adnewyddu, wedi dyfod yn ganolbwynt ar gyfer hunaniaeth ddiwylliannol Merthyr Tudful. Mae’r sgwâr wedi datblygu’n amgylchedd bywiog a fydd yn croesawu digwyddiadau yn ystod y flwyddyn sy’n dathlu treftadaeth y dref gan roi gwagle i grwpiau cymunedol hyrwyddo eu sefydliadau a darparu gwagle i brofi masnach. Mae o hyd yn bosibl i draffig symud o Bontmorlais i Church Street; fodd bynnag ni fydd mynediad i gerbydau mwyach i Stryd y Castell.

Gwelliant wrth Ddynesu at Ganol y Dref

Mae gwaith wedi ei gwblhau ar dri phrosiect allweddol i wella’r ffordd wrth ddynesu at ganol y dref:

Mae’r Cyswllt Tref Haearn yn bompren ac yn llwybr sy’n cysylltu swyddfeydd Llywodraeth Cymru Merthyr â Chanol y Dref.

Mae Platfform Gweld Penydarren, ar yr A4102 yn union uwch ben Ystâd Fasnachu Trevithick, yn edrych dros weithfeydd haearn gwreiddiol Penydarren. Wedi ei gwblhau ym mis Tachwedd 2012, mae’r platfform gweld yn dangos sut olwg fyddai wedi bod ar y Gwaith Haearn ac, yn fwy diddorol, sut y byddent wedi gweithio.

Cwblhawyd Porth Joseph Parry ar hyd Stryd Bethesda ym mis Mai 2012 ac mae’n cynnwys tirlunio meddal a goleuo sy’n cynnig mynedfa liwgar i Ganol y Dref.

Cysylltwch â Ni