Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cyflwyno’r Warant i Bobl Ifanc

Ym mis Tachwedd 2021, roedd Llywodraeth Cymru wedi datgelu Gwarant i Bobl Ifanc – ymrwymiad y byddai pawb dan 25 oed yng Nghymru yn cael cynnig cefnogaeth i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, dod o hyd i swydd neu ddod yn hunangyflogedig.  

Cafodd yr ymrwymiad ei wneud mewn ymateb i’r pandemig, er mwyn lleihau effeithiau COVID a rhoi cymorth i bobl ifanc i ddilyn eu nodau gyrfa. 

Cymru’n Gweithio yw’r porth i’r Warant i Bobl Ifanc a’r ffordd y bydd pobl ifanc yn gallu cael gafael ar y gefnogaeth sydd ar gael. Bydd yn adeiladu ar ei fodel cryf a llwyddiannus sydd eisoes ar waith o ddarparu cyfarwyddyd gyrfa a chymorth cyfeirio.

O ddechrau ar daith dy ddyfodol i ailystyried dy opsiynau, mae siarad gyda chynghorydd yn Cymru’n Gweithio’n syniad da. Cer i cymrungweithio.llyw.cymru neu ffonia 0800 028 4844.