Ar-lein, Mae'n arbed amser

Llywodraeth Cymru Y Cynnig Addysg/Gofal Plant 30 awr

Gallai’r rhan fwyaf o rieni sy’n gweithio sydd â phlant 3 neu 4 oed fod yn cael help y llywodraeth gyda chostau gofal plant.

O dan Gynnig Gofal Plant Cymru, gallech hawlio 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yng Nghymru bob wythnos, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Ei nod yw gwneud bywyd ychydig yn haws i rieni trwy gynnig help gyda chostau gofal plant.

Mae’r Cynnig eisoes wedi helpu rhieni ledled Cymru i ddychwelyd i’r gwaith, cynyddu eu horiau neu weithio’n fwy hyblyg. Mae eraill yn achub ar gyfleoedd hyfforddi i ddatblygu eu sgiliau, newid eu swydd neu ddechrau eu busnes eu hunain hyd yn oed.

Y nod yw rhoi ychydig bach mwy o arian bob mis i rieni sy’n gweithio, i’w wario ar bethau sy’n bwysig i’w teulu. 

Beth bynnag mae’r Cynnig yn ei olygu i chi a’ch teulu, peidiwch â cholli eich rhan chi o gymorth y llywodraeth gyda gofal plant.

Bydd gwasanaeth digidol cenedlaethol newydd y Cynnig Gofal Plant i Gymru yn cael ei lansio yn yr Hydref!

Fel darparydd gofal plant yng Nghymru, roeddem eisiau rhoi gwybod i chi am wasanaeth digidol newydd cenedlaethol y Cynnig Gofal Plant.

Bydd y gwasanaeth digidol yn darparu, cysondeb i rieni a darparwyr ar draws Cymru yn cychwyn yn yr Hydref. Mae’n hawdd ei ddefnyddio ac yn hygyrch pan yn symudol.

 

Pryd fydd fy mhlentyn yn dod yn gymwys?

Mae’r siart isod yn esbonio pryd y gallwch chi wneud cais am y Cynnig Gofal Plant:

Os cafodd eich plentyn ei eni Mae'n gymwys o Mae'n gymwys hyd at Cyfnod cyflwyno cais yn dechrau
1 Medi 2018 - 31 Rhagfyr 2018

4 Ionawr 2022 (dechrau   tymor y gwanwyn)

31 Awst yn dilyn ei ben-blwydd yn 4 oed 2023 Agor
1 Ionawr 2019 - 31 Mawrth 2019 25 Ebrill 2022 (dechrau tymor yr haf) 31 Awst yn dilyn ei ben-blwydd yn 4 oed 2023 Agor
1 Ebrill 2019 - 31 Awst 2019 5 Medi 2022 (dechrau tymor yr hydref) 31 Awst yn dilyn ei ben-blwydd yn 4 oed 2023 Agor
1 Medi 2019 - 31 Rhagfyr 2019 9 Ionawr 2023 (dechrau tymor y gwanwyn) 31 Awst yn dilyn ei ben-blwydd yn 4 oed 2024 Agor
1 Ionawr 2020 – 31 Mawrth 2020 17 Ebrill 2023 (dechrau tymor yr haf) 31 Awst yn dilyn ei ben-blwydd yn 4 oed 2024 Agor
1 Ebrill 2020 – 31 Awst 2020 4 Medi 2023 (dechrau tymor yr hydref) 31 Awst yn dilyn ei ben-blwydd yn 4 oed 2024

26 Mehefin 2023

(mae modd i chi gyflwyno’ch cais hyd at 90 diwrnod cyn dechrau'r tymor, ond fyddwn ni ddim yn prosesu’ch cais hyd nes y dyddiad sydd wedi'i nodi uchod)
1 Medi 2020 – 31 Rhagfyr 2020 8 Ionawr 2024 (dechrau tymor y gwanwyn) 31 Awst yn dilyn ei ben-blwydd yn 4 oed 2025

6 Tachwedd 2023

(mae modd i chi gyflwyno’ch cais hyd at 90 diwrnod cyn dechrau'r tymor, ond fyddwn ni ddim yn prosesu’ch cais hyd nes y dyddiad sydd wedi'i nodi uchod)

1 Ionawr 2021 – 31 Mawrth 2021 8 Ebrill 2024 (dechrau tymor yr haf) 31 Awst yn dilyn ei ben-blwydd yn 4 oed 2025

12 Chwefror 2024

(mae modd i chi gyflwyno’ch cais hyd at 90 diwrnod cyn dechrau'r tymor, ond fyddwn ni ddim yn prosesu’ch cais hyd nes y dyddiad sydd wedi'i nodi uchod)

Os gwnewch chi gais cyn y dyddiadau hyn, caiff ei wrthod yn awtomatig a bydd angen i chi ailymgeisio ar ôl y dyddiadau cychwyn.

Ym Merthyr Tudful, bydd pob rhiant cymwys yn cael cynnig lleiafswm o 12.5 awr o Addysg Blynyddoedd Cynnar a 17.5 awr o Ofal Plant. Mae hyn hefyd yn gymwys i’r rheiny sy’n dymuno gwneud defnydd o’r cynnig mewn Awdurdod Lleol arall.

NODWCH: os yw plentyn yn mynychu MCS mewn Awdurdod Lleol arall, bydd yr hawl CGP yn seiliedig ar y cynnig MCS yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r cynnig ym Merthyr Tudful, mae croeso ichi yrru e-bost i childcare.offer@merthyr.gov.uk

Dyddiadau Tymor Ysgol

Ymunwch â’r sgwrs ar-lein - edrychwch am yr hashnod #ChildcareOfferWales ar y cyfryngau cymdeithasol.