Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ardrethi Busnes hysbysiad blynyddol

ARDRETHI ANNOMESTIG

Caiff yr ardrethi annomestig eu casglu gan yr awdurdodau bilio a’u talu i mewn i gronfa ganolog ac yna eu hailddosbarthu i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol ac awdurdodau heddlu. Bydd eich cyngor a’ch awdurdod heddlu yn defnyddio eu cyfran hwy o’r incwm o’r ardrethi a  ailddosberthir, ynghyd ag incwm o’u talwyr Treth Cyngor, y grant cynnal refeniw sy’n cael ei ddarparu gan Llywodraeth Cymru a symiau penodol eraill, er mwyn talu am y gwasanaethau y maent yn eu darparu.

GWERTH ARDRETHOL

Mae gwerth ardrethol eiddo annomestig wedi ei sefydlu yn y rhan fwyaf o achosion gan swyddog gwerthuso annibynnol o’r Asiantaeth Swyddfa Gwerthuso. Mae pob eiddo annomestig wedi cael ei adbrisio o 1 Ebrill 2017, mae gwerth ardrethol eiddo yn cynrychioli ei werth rhentu blynyddol ar y farchnad agored fel ag yr oedd ar 1 Ebrill 2015.

GWIRIWCH EICH GWERTH ARDRETHOL

Mae’r Cyngor yn defnyddio’r gwerth ardrethol sy’n cael ei ddarparu gan Asiantaeth y Swydffa Brisio I gyfrifo’ch bil Ardrethi Busnes. Gallwch wirio’ch gwerth ardrethol a’i gymharu ag eraill ar wefan yr Asiantaeth yn www.tax.service.gov.uk/view-my-valuation/search. Gallwch gysylltu a hwy hefyd os bydd arnoch angen rhoi gwybod iddynt am unrhyw fater.

Yn achos eiddo cyfansawdd sy’n rhannol ddomestig ac yn rhannol annomestig, mae’r gwerth ardrethol yn ymwneud â’r rhan annomestig yn unig. Dangosir gwerth pob eiddo y mae ardrethi yn daladwy i’ch awdurdod ar eu cyfer ar y rhestr ardrethu leol, sydd i’w gweld ar wefan VOA ar www.tax.service.gov.uk/view-my-valuation/search.

 

NEWID I’R GWERTH ARDRETHOL

Gall y gwerth ardrethol newid os bydd y swyddog prisio yn credu bod amgylchiadau’r eiddo wedi newid.

O dan amgylchiadau penodol, caiff y talwr ardrethi (a rhai eraill a chanddynt fuddiant yn yr eiddo) gynnig newid i werth yr eiddo hefyd. Os na fydd y talwr ardrethi a’r swyddog prisio yn cytuno ar y prisiad o fewn 3 mis i’r dyddiad y gwnaed y cynnig, caiff y mater ei gyfeirio fel apêl i Dribiwnlys Prisio. Mae gwybodaeth bellach ynghylch sut i gynnig newid mewn gwerth ardrethol ar gael oddi wrth swyddfeydd prisio.

CYNIGION AC APELAU

Ers 1 Ebrill 2017, mae  newidiadau pwysig wedi’u gwneud i’r rheolau ynghylch gwneud cynigion neu apelau yn erbyn gwerthoedd ardrethol ac mae  gwybodaeth am y newidiadau ar gael oddi wrth y Swyddfa Brisio leol neu www.gov.uk/business-rate-appeals .

Gellir cael gwybodaeth bellach am drefniadau apelio ar gael oddi wrth Prif Brisiwr Cymru & Swyddog Prisio, Ardrethi An-Nomestig Cymru, Asiantaeth y Swyddfa Brisio, Tŷ Rhodfa, Tŷ Glas Road, Llanishen, Caerdydd, CF14 5GR.
Rhif Ffôn: 03000 505505

Y LLUOSYDD ARDRETHU ANNOMESTIG CENEDLAETHOL

Hon yw’r ardreth yn y bunt a ddefnyddir i luosi’r gwerth ardrethol er mwyn cael y bil ardrethu blynyddol ar gyfer eiddo. Mae’r lluosydd, sy’n cael ei bennu bob blwyddyn gan Llywodraeth Cymru, ac sydd wedi’i bennu’n 0.526c ar gyfer 2019/2020, yr un fath ar gyfer Cymru gyfan. Ac ithrio mewn blwyddyn ailbrisio, ni all y lluosydd godi a mwy na chyfradd y cynnydd yn y mynegai prisiau manwerthu.