Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gostyngiad Ardrethi Busnes

Use this service to apply for Business Rates Relief.

Rhyddhad Ardrethi Ar Eiddo Gwag

Nid oes angen talu ardrethi busnes ar eiddo busnes gwag am 3 mis ar ôl i'r eiddo ddod yn wag. Mae eithriadau ychwanegol ar gyfer mathau penodol o eiddo, neu eiddo â gwerth ardrethol sy'n llai na lefel benodol.  Mae’r rhain yn cynnwys:

  • safleoedd diwydiannol, fel warysau, sy’n cael eu heithrio am 3 mis pellach
  • adeiladau rhestredig sy’n cael eu heithrio nes iddynt gael eu meddiannu eto
  • adeiladau â gwerth ardrethol o lai na £2,600 sy’n cael eu heithrio nes iddynt gael eu meddiannu eto
  • safleoedd sy'n eiddo i elusennau, sy’n cael eu heithrio os yw'r defnydd nesaf a wneir ohonynt yn debygol o fod yn llwyr neu'n bennaf at ddibenion elusennol
  • adeiladau clybiau chwaraeon amatur cymunedol sy’n cael eu heithrio os yw'r defnydd nesaf a wneir ohonynt yn debygol o fod yn llwyr neu'n bennaf at ddibenion clwb chwaraeon
  • busnesau dan berchnogaeth cwmni sy'n cydymffurfio â’r gorchymyn dirwyn i ben a wneir dan Ddeddf Ansolfedd 1986, neu sy’n cael eu dwyn i ben yn wirfoddol dan y Ddeddf honno
  • busnesau dan berchnogaeth cwmni sydd yn nwylo’r gweinyddwyr o fewn ystyr paragraff 1 o Atodlen B1 i Ddeddf Ansolfedd 1986 neu sy'n ddarostyngedig i  orchymyn gweinyddu a wnaed o dan y darpariaethau gweinyddu blaenorol o fewn ystyr erthygl 3 o Orchymyn Deddf Menter 2002 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2003
  • busnes y mae gan y perchennog hawl i feddiant yn rhinwedd ei ddyletswydd fel cynrychiolydd personol person ymadawedig yn unig

 Ar ôl i'r cyfnod eithrio ddod i ben, byddwch yn gorfod talu'r bil ardrethi busnes llawn.

Dylech roi gwybod i'ch awdurdod lleol pan ddaw eiddo'n wag a hefyd pan fydd yn cael ei ail-feddiannu.

RHYDDHAD ARDRETHI BUSNESAU BACH YNG NGHYMRU

Daeth cynllun newydd parhaol i rym ar 1 Ebrill 2018. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu rhyddhad ardrethi annomestig i fusnesau bach cymwys.

  • bydd safleoedd busnes cymwys sydd â gwerth ardrethol hyd at £6,000 yn cael rhyddhad o 100%
  • bydd y rheini sydd â gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £12,000 yn cael rhyddhad ar raddfa a fydd yn gostwng o 100% i sero

 Bydd y mathau isod o fusnesau yn cael rhyddhad ardrethi fel a ganlyn:

Safle Gofal Plant Cofrestredig

  • bydd safle gofal plant cofrestredig sydd â gwerth ardrethol hyd at £6,000 yn cael rhyddhad o 100%
  • bydd y rheini sydd â gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £20,500 yn cael rhyddhad ar raddfa o 100% i sero

Swyddfeydd Post

  • bydd Swyddfeydd Post sydd â gwerth ardrethol hyd at £9,000 yn cael rhyddhad o 100%
  • bydd y rheini â gwerth ardrethol rhwng £9,001 a £12,000 yn cael rhyddhad o 50%

Terfyn Amlfeddiannaeth

Os yw talwr ardrethi yn gyfrifol am fwy na dau eiddo ar un rhestr ardrethi annomestig leol (“rhestr leol”), ac mai dim ond yr amodau gwerth ardrethol y mae’r eiddo yn eu bodloni, bydd y talwr ardrethi yn cael rhyddhad ar gyfer uchafswm o ddau eiddo o’r fath yn unig.

 

Brasamcan o rai o’r gwahanol gyfraddau o ryddhad

Gwerth Ardrethol (£)

% Rhyddhad

Gwerth Ardrethol (£)

% Rhyddhad

0 – 6,000

100

9,000

50

7,000

83.4

10,000

33.3

8,000

66.6

11,000

16.6

 

RHYDDHAD TROSIANNOL

Yn dilyn ymarfer ailbrisio ardrethi annomestig 2017 gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, bydd rhyddhad trosiannol yn cael ei weithredu er mwyn cefnogi trethdalwyr y bydd yr ailbrisio yn cael effaith ar eu cymhwysedd ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach (RABB).

Bydd y cynllun rhyddhad trosiannol yn cael ei gyflwyno i roi cymorth i drethdalwyr fydd yn derbyn Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach ar 31 Mawrth 2017, a fyddai'n gweld gostyngiad yng nghanran y Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach y mae ganddynt hawl iddo ar 1 Ebrill 2017, oherwydd bod eu gwerthoedd ardrethol wedi cynyddu yn dilyn yr ailbrisio. 

Bydd Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach yn cael ei gymhwyso cyn rhyddhad trosiannol. Bydd y rhyddhad trosiannol yn gweithio drwy gyflwyno unrhyw gynnydd mewn atebolrwydd dros gyfnod o 3 blynedd (25% o gynnydd mewn atebolrwydd ym mlwyddyn 1, 50% ym mlwyddyn 2 a 75% ym mlwyddyn 3).

Y trethdalwyr a fyddai'n gymwys fydd: 

  • trethdalwyr yn symud o SBRR llawn i SBRR rhannol
  • trethdalwyr yn symud o SBRR llawn i ddim SBRR
  • trethdalwyr yn symud o SBRR rhannol i ddim SBRR
  • aros o fewn SBRR rhannol, ond yn gweld cynydd mewn gwerth ardrethol

RHYDDHAD ARDRETHI’R STRYD FAWR

Nod Cynllun Rhyddhad Ardrethi’r Stryd Fawr, sy’n werth £5 miliwn, yw helpu manwerthwyr y stryd fawr yng Nghymru, fel siopau, tafarnau, bwytai, a chaffis, gan gynnwys y manwerthwyr hynny y mae eu hardrethi wedi codi o ganlyniad i ailbrisiad Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn 2017.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu dwy haen o ryddhad ardrethi’r stryd fawr, sef hyd at £250 (Haen 1) neu hyd at £750 (Haen 2), ar gyfer manwerthwyr cymwys y stryd fawr sy’n gweithredu o eiddo sydd â gwerth ardrethol o £50,000 neu lai ym mlwyddyn ariannol 2018-19, yn amodol ar derfynau Cymorth Gwladwriaethol.

Haen 1 – eiddo sy’n bodloni meini prawf y stryd fawr ac sy’n cael Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach neu Ryddhad Trosiannol ar 1 Ebrill 2017.

Haen 2 – eiddo sy’n bodloni meini prawf y stryd fawr nad ydynt yn cael Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach na Rhyddhad Trosiannol ar 1 Ebrill 2017, ac sydd hefyd yn gweld cynnydd yn eu hatebolrwydd o ganlyniad i ailbrisiad 2017.

Yr awdurdod lleol fydd yn penderfynu pryd i ganiatáu rhyddhad ardrethi, gan ystyried pob achos yn unigol, a bydd y rhyddhad hwnnw ar gael o 1 Ebrill 2018 hyd at 31 Mawrth 2019.

RHYDDHAD ELUSENNOL A DISGRESIYNOL

Mae gan elusennau hawl i gael rhyddhad rhag talu ardrethi ar gyfer unrhyw eiddo annomestig sy’n cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion elusennol. Mae rhyddhad yn cael ei roi yn ôl 80% o’r bil ardrethu, ac mae gan awdurdodau bilio ddisgresiwn i ddileu’r cyfan neu ran o’r 20% sy’n weddill o fil elusen am eiddo o’r fath. 

Yn ychwanegol at hyn ac o 1 Ebrill 2004 ymlaen, rhoddir rhyddhad gorfodol rhag talu ardrethi o 80% i glybiau chwaraeon amatur cymunedol (CChAC, ar yr amod bod y clybiau wedi’u diffinio a’u cofrestru fel y cyfryw gyda Chyllid y Wlad.  Gellir canfod gwybodaeth am y CChAC ar wefan Cyllid y Wlad: www.hmrc.gov.uk/index.htm

RHYDDHAD CALEDI ARDRETHI BUSNES

Mae Adran 49 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn rhoi’r disgresiwn i awdurdodau bilio (y Cyngor) leihau neu ddychwelyd taliad ardrethi i unrhyw un sy’n talu ardrethi.  Gall y Cyngor wneud hynny ble mae’n fodlon y byddai’r talwr ardrethi’n dioddef caledi pe na bai’n gwneud hynny, a’i bod yn rhesymol i wneud hynny, gan roi ystyriaeth i fuddiannau’r rhai sy’n talu Treth y Cyngor.

Fe wnaeth y Cyngor gymeradwyo polisi Rhyddhad Caledi Ardrethi Busnes ar y 7 Tachwedd 2012.  Mae’r polisi’n amlinellu’r meini prawf cymhwyster ac, os hoffai busnesau wneud cais, gellir darparu’r polisi a ffurflen gais trwy wneud cais i’r Adran Gyllid ar 01685 725239.

EIDDO HANANDDARPAR

Os yw eich eiddo yng Nghymru ac ar gael i’w osod yn fasnachol fel eiddo hunanddarpar yna bydd yn cael ei raddio ac yn cael gwerth ar gyfer ardrethi annomestig, ar yr amod y bodlonir meini prawf penodol. Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cyfrifo'r gwerth ardrethol yn seiliedig ar y math o eiddo, ei faint a’i leoliad.

O 1 Ebrill 2010 ymlaen yng Nghymru, mae eiddo hunanddarpar yn cael ei gyfrif fel eiddo annomestig, ac felly yn gorfod talu ardrethi annomestig, os yw Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn fodlon:

  • bod yr eiddo ar gael i'w osod yn fasnachol fel llety hunanddarpar am gyfnodau byr sy’n dod i gyfanswm o 140 diwrnod neu ragor yn y 12 mis canlynol
  • bod buddiant y trethdalwr yn yr eiddo yn ei alluogi i’w rentu am gyfnodau o’r fath
  • y bu’r eiddo, yn y 12 mis cyn yr asesiad, ar gael i'w osod yn fasnachol fel llety hunanddarpar am gyfnodau byr sy’n dod i gyfanswm o 140 diwrnod neu ragor
  • bod y cyfnodau byr y’i gosodwyd yn fasnachol mewn gwirionedd yn dod i gyfanswm o 70 diwrnod o leiaf yn ystod y cyfnod hwnnw

O 1 Ebrill 2016 ymlaen yng Nghymru, bydd y meini prawf uchod yn parhau i fod yn gymwys, ond mae darpariaeth newydd hefyd yn cael ei chyflwyno fel bod:

  • busnesau sy'n cynnwys sawl eiddo hunanddarpar yn yr un lleoliad neu yn agos iawn at ei gilydd yn cael yr opsiwn i rannu ar gyfartaledd nifer y diwrnodau y caiff  yr holl adeiladau eu gosod i fodloni’r maen prawf o 70 diwrnod os mai yr un busnes neu fusnesau cysylltiedig sy’n eu gosod

Gallwch gael cyngor ac arweiniad llawn ar asesu eiddo hunanddarpar yng Nghymru yn y llyfryn hwn.