Ar-lein, Mae'n arbed amser

Tudalen Biniau Masnach

Mae ailgylchu yn y gweithle yn newid

O 6 Ebrill 2024 ymlaen, bydd yn gyfraith i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus i sortio eu gwastraff er mwyn ei ailgylchu.

Mae hefyd yn gymwys i'r holl gasglwyr a phroseswyr gwastraff a deunydd ailgylchu sy'n rheoli gwastraff gweithleoedd sy'n debyg i wastraff cartrefi.

Ewch I Ailgylchu yn y gweithle | LLYW.CYMRU

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn codi tâl am ddarparu gwasanaeth casglu biniau masnach ar gyfer busnesau lleol. Mae sawl cynhwysydd o feintiau gwahanol ar gael sy’n addas ar gyfer y maint o wastraff sy’n cael ei gynhyrchu. Mae’r cynwysyddion  yn amrywio yn eu meintiau, o focs 55 litr y gellir ei bentyrru i gynhwysydd 1100 litr.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn darparu gwasanaeth casglu wythnosol a chodir bil bob mis o flaen llawr.  

  • Dylai papur i’w ailgylchu cael ei gadw ar wahân i ddeunyddiau eraill. Dylai papur fod yn rhydd a ddim oddi fewn i fagiau plastig
  • Gellir cynnwys plastig a chaniau ar y cyd. Dylai plastig a chaniau gael eu golchi’n gyntaf. Dim bagiau plastig
  • Gall Cardbord gael ei fwndelu neu ei bacio’n wastad mewn blwch sydd heb fod yn fwy na 3 troedfedd giwbig. Er mwyn eu rhoi allan i’w casglu, mae angen tâp finyl glas a gwyn swyddogol Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful  a gosod y tâp gludiog 360 gradd oddi amgylch i’r bwndel cyn ei roi allan i’w gasglu ar y diwrnod casglu penodol
  • Os yw’ch busnes yn cynhyrchu gwydr, gellir darparu cynhwysydd gwydr arbennig 140 neu 240 litr a’i wagio ar ddiwrnod casglu gwydr penodol
  • Os yw’ch busnes yn cynhyrchu gwastraff bwyd yn gyson, gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful eich darparu â chynhwysydd arbennig sydd naill ai yn 240 litr neu’n 23 litr. Gellir rhoi eich gwastraff bwyd ynddynt mewn bagiau compostio arbennig (gellir prynu bagiau ailgylchu gwastraff bwyd gan GBS Merthyr Tudful neu medrwch lapio eich bwyd mewn papur newydd.) Darperir cynhwysydd llai i’w osod yn y gegin i gasglu’r gwastraff bwyd cyn iddo gael ei osod yn y blwch ailgylchu bwyd sy’n fwy o faint
  • Mae gwahanol feintiau o gynwysyddion ar gael ar gyfer gwastraff cyffredinol a fydd yn cael eu casglu ar amlderau amrywiol

Ailgylchu yn y Gweithle

Mae’r rheoliadau ynghylch gwastraff masnach yn newid yng Nghymru. Mae deddfwriaeth newydd yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau wahanu eu gwastraff a bydd yn dod i rym ar 6 Ebrill 2024.

Cofiwch mai eich cyfrifoldeb chi yw ailgylchu'n gywir yn y gwaith. Ni ddylech roi deunydd ailgylchu yn y bin sbwriel cyffredinol a rhaid rhoi deunydd ailgylchu yn y cynwysyddion ailgylchu cywir a ddarperir.

Rhaid i fusnesau gyflwyno deunyddiau ailgylchadwy penodedig i'w casglu ar wahân i'w gilydd ac ar wahân i wastraff cyffredinol.

Ni ddylech roi unrhyw ddeunydd ailgylchu yn y bin sbwriel. Os oes deunyddiau y gellir eu hailgylchu yn y bin ar y diwrnod casglu yna ni fydd y bin hwnnw yn cael ei gasglu a chyfrifoldeb y safle yw cael gwared ar yr ailgylchu.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gorfodi cydymffurfiaeth â’r ddeddfwriaeth sydd ar ddod ac mae torri amodau yn destun cosbau penodedig a chamau gorfodi priodol.

Os hoffech ragor o wybodaeth neu gyngor ar sut i ailgylchu’n iawn yn eich gweithle, cysylltwch â’r Swyddog Gwastraff Masnach ar 01685 725363 neu ar lisa.tomkins@merthyr.gov.uk Neu ewch i https://www.llyw.cymru/newidiadau-i-ailgylchu-yn-y-gweithle-canllawiau-ar-gyfer-gweithleoedd a https://www.llyw.cymru/ailgylchu-yn-y-gweithle am arweiniad.

Diolch yn Fawr

Derbyn Ailgylchu Masnachol yng NghAGC Dowlais yn unig.

O 9 Ionawr 2023 mae'r Awdurdod Lleol yn mynd i gynnig cynllun derbyn Masnach yn GAGC Dowlais.

Os hoffech fanteisio ar gynllun derbyn gwastraff Masnachol yr Awdurdod Lleol yn y GAGC yn Nowlais, ffoniwch 01685 725000.

Cyfrifoldeb perchennog y busnes yw sicrhau fod y bin yn cael ei gadw mewn man diogel ac nad yw’n boendod/berygl i’r cyhoedd. Ni ddylech orlenwi’r bin gan na fydd gwastraff sy’n gorlifo ohono’n cael ei gasglu. Os yw’ch busnes yn cynhyrchu mwy o wastraff na’r hyn y medrir ei ffitio yn eich bin, cysylltwch â ni a medrwn drafod opsiynau addas er mwyn datrys y broblem.

Disgwylir i chi gwblhau cytundeb a nodyn trosglwyddiad gwastraff cyn y gellir dechrau ar eich gwasanaeth.

Os newidiwch eich gwasanaeth, bydd rhaid i’r swyddog trosglwyddiad gwastraff dderbyn nodyn trosglwyddiad gwastraff diwygiedig sydd wedi ei arwyddo cyn y gellir newid y gwasanaeth.

Gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful edrych ar lif eich gwastraff a chynghori ar gyfleoedd ailgylchu masnach.

Gall y gwasanaethau yma leihau eich gwastraff a chost eich casgliadau wrth gynorthwyo eich cwmni i fod yn fwy gwyrdd. Mewn geiriau eraill, Ailgylchwch eich Gwastraff i Leihau Costau ac Achub eich Amgylchedd Lleol!

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn a casgliadau gwastraff masnachol gyda CBSMT cwblhewch y ffurflen sylwadau isod.

Dechreuwch nawr - Ffurflen sylwadau gwastraff masnachol

Am wybodaeth ynghylch opsiynau storio, amlderau casgliadau a phrisiau, cysylltwch â’r Swyddog Gwastraff Masnachol ac Ailgylchu ar 01686 725000.

Cysylltwch â Ni