Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Mae twristiaeth yn sbardun allweddol i dwf economaidd, adfywio a lles cymunedol ym Merthyr Tudful.
Mae'r Cyngor yn arwain rheoli cyrchfannau, gan weithio gyda phartneriaid, busnesau a chymunedau i dyfu economi ymwelwyr gynaliadwy a darparu manteision hirdymor i'n Bwrdeistref Sirol.
Ein Rôl mewn Rheoli Cyrchfannau
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful sy'n arwain Rheoli Cyrchfannau ar draws y Fwrdeistref Sirol.
Mae hyn yn cynnwys:
- Cyflawni'r Cynllun Rheoli Cyrchfan: Ynni'r Dyfodol (2026-2030)
- Hyrwyddo'r gyrchfan drwy Croeso Merthyr
- Cefnogi twf a buddsoddiad y sector
- Cydlynu partneriaid a gwella profiad a chynnyrch ymwelwyr