Ar-lein, Mae'n arbed amser

Labelu bwyd ac alergenau

Mae'r Cyngor yn ymdrin â chwynion yn ymwneud a phrynu bwyd gan gynnwys:

  • Hylendid
  • Bwyd nad yw'n ffit i'w fwyta
  • Cyrff estron
  • Labelu bwyd
  • Cyfansoddiad a Disgrifiad bwyd
  • Halogi bwyd

Cynhelir arolygiadau o safleoedd bwyd lle archwilir labeli a phecynnau bwyd er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio a'u gofynion cyfreithiol.

Hefyd, bydd samplau'n cael eu cymryd i wneud yn siŵr bod defnyddwyr yn cael yr hyn maent yn talu amdano. Rydym yn gwirio nad yw amnewid gwirodydd am ddewisiadau eraill rhatach yn digwydd. Gwneir samplau o gynhyrchion cig er mwyn canfod ydy'r cynnyrch yn cynnwys y lleiafswm gofynnol o gynnwys cig.

Rydym hefyd yn ceisio helpu i addysgu ein defnyddwyr ar ddeall labeli bwyd a maeth. Mae gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd wefan a fwriadwyd i ddarparu canllawiau ar y materion hyn.

Yn ogystal â hynny, rydym yn sicrhau bod bwyd anifeiliaid ac anifeiliaid anwes yn bodloni'r safonau gofynnol. Cynhelir gwiriadau ac archwilir labeli i bennu a yw cynhyrchion yn arddangos y wybodaeth faethol gywir ar gyfer yr anifail.

Os oes gennych gwyn neu ymholiad yn ymwneud ag unrhyw gynnyrch bwyd neu fwyd anifeiliaid cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar waelod y dudalen.

Rhybuddion Bwyd

Mae Adran Iechyd yr Amgylchedd yn derbyn Rhybuddion Bwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Yn ddibynnol ar y math o rybudd, bydd y Gwasanaeth yn cynnal archwiliadau neu'n rhoi gwybodaeth i fasnach am y rhybudd penodol.

I weld y rhybuddion bwyd diweddaraf, ewch ar dudalen Gwybodaeth Rhybuddion Bwyd Yr Asiantaeth Safonau Bwyd o'r adran cysylltiadau allanol ar y dudalen hon.

Rhybuddion Alergedd

Weithiau, mae'n rhaid tynnu bwyd yn ôl nos oes perygl i ddefnyddwyr oherwydd bod y labelu alergedd ar goll neu'n anghywir neu os oes unrhyw berygl alergedd bwyd arall.

Mewn sefyllfaoedd o'r math hwn, bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cyhoeddi Rhybudd Alergedd. Mae'n bosibl i danysgrifio i system rhybudd ar e-bost i dderbyn negeseuon awtomatig pan mae Rhybuddion Alergedd yn cael eu cyhoeddi. Am ragor o wybodaeth, ewch ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Rhybuddion trwy neges destun

Gallwch dderbyn manylion yr holl rybuddion alergedd diweddaraf cyn gynted ag y cânt eu cyhoeddi  trwy gael y manylion ar neges destun SMS a anfonir yn uniongyrchol i'ch ffôn symudol.

I ymuno â'r gwasanaeth rhad ac am ddim hwn, anfonwch neges destun yn dweud 'START ALLERGY' i'r rhif 62372. I ganslo'r gwasanaeth hwn, anfonwch neges destun yn dweud 'STOP ALLERGY' i'r un rhif.

Cysylltwch â Ni