Ar-lein, Mae'n arbed amser

Diogelwch bwyd arolygiadau

Mae cynnal a chadw bwydydd diogel i'r defnyddwyr o'r cannoedd o allfeydd adwerthu, arlwyo a manwerthu yn y fwrdeistref yn gynhwysyn hanfodol.

Mae'r awdurdod yn cadw cofrestr o'r holl fasnachwyr bwyd a bydd pob un yn cael ei arolygu heb rybudd ymlaen llawn, er mwyn sicrhau bod eu harferion yn hylan a bod rheoliadau digonol ar waith i atal halogi gyda chyrff estron neu facteria niwediol. Mae'r gofynion hyn yn berthnasol i'r holl safleoedd o arlwywr cartref i faniau hufen iâ a ffatrïoedd bwyd i ffreuturau gweithle a'r holl allfeydd adwerthu gan gynnwys tafarndai a chlybiau. Gweler y dudalen briodol am ragor o wybodaeth ynglŷn â chofrestru.

Rydym wedi ymuno â'r Asiantaeth Safonau Bwyd a phob awdurdod arall yng Nghymru i fod yn rhan o'r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd Cenedlaethol.

Mae'r cynllun, sy'n cael ei gyflwyno ar draws y DU, yn rhoi gwell syniad i bobl Merthyr Tudful am safonau hylendid a sut mae busnesau bwyd yn cael eu sgorio.

Mae tai bwyta, caffis bwyd i fynd, siopau brechdanau, tafarndai, gwestai, allfeydd adwerthu bwyd ac unrhyw fusnes arall lle gallwch fwyta neu brynu bwyd yn derbyn sgôr.

Mae bob busnes yn cael sgôr o 0 i 5 (5 yw'r gorau) yn seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd yn ystod arolygiadau arferol gan Swyddogion Iechyd Amgylcheddol. Yna, mae'r wybodaeth yn cael ei chyhoeddi ar wefan genedlaethol y gall cwsmeriaid gael mynediad ato (cliciwch ar y cyswllt ar ochr dde'r dudalen).

Hefyd, anogir busnesau i arddangos sticer yn nodi eu sgôr, sy'n rhoi gwybodaeth 'ar yr olwg gyntaf' i gwsmeriaid ac yn cynorthwyo pobl i wneud dewisiadau gwybodus ynglŷn â lle maen nhw'n prynu ac yn bwyta bwyd.

Dechreuwyd sgorio busnesau o 1 Hydref 2010 ac mae'r sgorau'n cael eu cyhoeddi ar wefan sgorau hylendid bwyd cenedlaethol.

Mae pob busnes sy'n bodoli eisoes wedi derbyn cyngor am y cynllun, a datblygwyd taflen i gynnig cyngor i fusnesau newydd (cliciwch ar y ddogfen ar ochr dde'r dudalen).

Mae ffurflenni perthnasol i'r cynllun hefyd ar gael ar ochr dde'r dudalen hon fel a ganlyn:

  • Ffurflen Apelio
  • Gwneud cais am ail-ymweliad i ail-sgorio
  • Ffurflen Hawl i Ymateb

Mae ein Siarter Gwasanaeth Diogelwch Bwyd yn amlinellu'r safonau sydd gennym ar waith ac mae ein Polisi Cydymffurfio a Gorfodi yn dangos sut byddwn yn cymryd camau i orfodi er mwyn gwella safonau diogelwch bwyd. Mae cysylltiadau i'r dogfennau hyn ar ochr dde'r dudalen hon. Hefyd, mae'r Cynllun Gwasanaeth ar gyfer eleni wedi'i ddarparu.