Ar-lein, Mae'n arbed amser

Iechyd a diogelwch yn y gwaith – Gweithwyr Hunangyflogedig

Yn 2011 argymhellodd gorfodaeth Iechyd a Diogelwch ym Mhrydain Fawr y dylai’r rheini sy’n hunangyflogedig, ac nad yw eu gweithgaredd gwaith yn peri unrhyw risg arfaethedig o niwed i eraill, gael eu heithrio o gyfraith iechyd a diogelwch. Cafodd yr argymhelliad hwn ei dderbyn gan y Llywodraeth.

Felly, ers mis Hydref 2015, os ydych yn hunangyflogedig ac nad yw eich gweithgaredd gwaith yn peri unrhyw risg arfaethedig i iechyd a diogelwch aelodau eraill o’r cyhoedd, yna ni fydd cyfraith iechyd a diogelwch yn gymwys i chi.

Amcangyfrifir y bydd cyfraith iechyd a diogelwch yn gymwys i 1.7 miliwn o bobl hunangyflogedig fel nofelwyr, newyddiadurwyr, dylunwyr graffeg, cyfrifyddion, ymgynghorwyr ariannol a gwinwragedd, pan nad yw eu gwaith yn peri risg i iechyd a diogelwch eraill. Fodd bynnag, ceir nifer o broffesiynau eraill ble nad yw bod yn hunangyflogedig yn eich eithrio rhag cyfraith Iechyd a Diogelwch, yn enwedig os ydych yn hunangyflogedig ond yn gweithio mewn lleoliad o risg uchel.

Yr hyn mae’r gyfraith yn ei ddweud:

Mae Rheoliadau Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974 (Dyletswyddau Cyffredinol Pobl Hunangyflogedig) 2015 yn datgan:

•os yw eich gweithgaredd gwaith yn cael ei nodi’n benodol yn y rheoliadau uchod

•neu os yw eich gweithgaredd gwaith yn peri risg i iechyd a diogelwch eraill, yna mae’r gyfraith yn gymwys i chi

Beth a olygir gan ‘hunangyflogedig’?

At ddibenion iechyd a diogelwch, ystyr ‘hunangyflogedig’ yw nad ydych yn gweithio o dan gontract cyflogaeth a’ch bod yn gweithio i chi eich hun yn unig.

Os ydych yn hunangyflogedig ac yn cyflogi eraill, bydd y gyfraith yn gymwys i chi. Mae’n bosibl y byddwch yn hunangyflogedig at ddibenion treth, ond mae’n bosibl na fydd hyn yn wir at dibenion iechyd a diogelwch. Mae hwn yn faes cymhleth ac mae CThEM wedi cynhyrchu canllaw statws cyflogaeth.

Beth yw ‘peryglu iechyd a diogelwch eraill’?

Mae hyn yn ymwneud â’r tebygolrwydd fod rhywun arall yn cael ei niweidio neu ei anafu (e.e. aelodau o’r cyhoedd, cleientiaid, contractwyr ayb) o ganlyniad i’ch gweithgaredd gwaith.

Bydd y rhan fwyaf o bobl hunangyflogedig yn gwybod os yw eu gwaith yn peri risg i iechyd a diogelwch eraill. Rhaid i chi ystyried y gwaith yr ydych yn ei wneud a barnu drosoch eich hun a yw’n creu risg ai peidio.

Er enghraifft, os ydych yn gweithio reid mewn ffair at ddefnydd y cyhoedd yna gallai eich gwaith effeithio ar iechyd a diogelwch pobl eraill a rhaid i chi gymryd y camau priodol i’w diogelu nhw gan y bydd y gyfraith yn gymwys i chi.

Cysylltwch â Ni

Oeddech chi’n chwilio am?