Ar-lein, Mae'n arbed amser
Landlordiaid Rhentu Doeth Cymru
Ydych chi’n gosod eiddo yng Nghymru?
Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith bellach bod landlordiaid ac asiantau wedi’u cofrestru neu eu trwyddedu. Mae cyfraith newydd wedi’i chyflwyno yng Nghymru sy’n berthnasol i bob landlord ac asiant eiddo preswyl preifat. Os ydych yn berchen ar eiddo rhent, yn gosod eiddo ar rent neu’n rheoli a/neu’n byw mewn eiddo rhent, bydd y gyfraith hon yn effeithio arnoch chi. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais
Ewch i wefan Rhentu Doeth Cymru neu ffoniwch 03000 133344.
Defnyddio asiant rheoli
- I landlordiaid sy’n dymuno peidio ag ymwneud â materion beunyddiol gosod a rheoli eiddo, nid oes orfodaeth i wneud o dan y ddeddfwriaeth newydd. Yn hytrach, rhaid iddynt enwebu asiant yn ffurfiol adeg eu cofrestru a fydd yn ymgymryd â’r gwaith o osod a rheoli’r eiddo ar eu rhan. Rhaid i’r asiant hwnnw fod yn drwyddedig. Fodd bynnag, gan mai’r landlord sy’n cymeradwyo’r denantiaeth maen nhw’n dal i fod yn rhan o’r broses ac felly rhaid iddyn nhw gofrestru’u hunain a'r eiddo.
Cwestiynau Cyffredin
Pryd daeth Rhan 1 Deddf Tai (Cymru) 2014 i rym?
O 23 Tachwedd 2015 newidiodd y cynllun Achredu Landlordiaid Cymru (ALC) a weinyddwyd gan Gyngor Caerdydd ar ran y bartneriaeth awdurdod lleol. Mae’r gyfraith newydd yn rhoi goblygiadau cyfreithiol newydd ar landlordiaid preifat ac asiantau sy’n gweithredu yng Nghymru.
Mae gen i Dŷ Amlfeddiannaeth trwyddedig. A oes dal i fod angen imi gofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru?
Bydd angen i chi wneud cais am drwyddedau eiddo unigol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth gan yr awdurdod hwn.
I ddysgu rhagor am y gyfraith newydd a fydd yn berthnasol i bob landlord preifat ac asiant yng Nghymru, ewch i wefan Rhentu Doeth Cymru.
I gadw lle ar hyfforddiant
Ewch i wefan Rhentu Doeth Cymru neu cysylltwch â gweinyddwr y cynllun:
Rhentu Doeth Cymru
dan ofal Cyngor Caerdydd
Neuadd y Ddinas
Caerdydd
CF10 3ND