Ar-lein, Mae'n arbed amser

Chwilio am safleoedd busnes

Rheolir tir ac eiddo'r Cyngor sydd dros ben gan ein Hadran Ystadau.

Cyfleoedd Datblygu Newydd

Tir ac Eiddo Cyfredol Ar Werth

Am restr o eiddo cyfredol sydd ar werth, ewch ar wefan Paul Fosh.

Pwy i Gysylltu â nhw

Gellir canfod manylion cysylltu am bob eiddo ar wefan Paul Fosh. Os oes gennych ddiddordeb yn unrhyw eiddo a hysbysebir, cysylltwch gan ddefnyddio'r manylion cysylltu â ddarparwyd.

Os hoffech i ni roi gwybod i chi am argaeledd tir a/neu eiddo, anfonwch e-bost atom gan ddefnyddio'r manylion isod.

Ymholiadau cynllunio?

Os yw eich cais i brynu tir yn cynnwys newid defnydd y tir yna argymhellir eich bod yn cael cyngor gan dimau Rheoli Datblygiad a Pholisi Cynllunio'r Cyngor cyn cyflwyno eich cais. Gweler adran Cynllunio ein gwefan am ragor o fanylion.

Cyngor a chefnogaeth busnes – ymholiadau eiddo

Yn Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, mae amrywiaeth eang o safleoedd ac eiddo i fusnesau sydd am gychwyn yn yr ardal neu sydd eisiau ehangu o'u heiddo presennol.

P'un ai a ydych yn fuddsoddwr newydd ym Merthyr Tudful neu'n rywun sy'n adnabod yr ardal yn dda, cewch ei synnu gyda'r ystod o dir a safleoedd sydd ar gael at bob math o ddefnydd. 

Ar ôl mwy na dwy ganrif o gynllunio strategol ac adennill tir gan Fwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a'i bartneriaid yn y sector breifat a'r sector gyhoeddus, mae tua 41 hectar o dir ar gael yn awr, gyda safleoedd unigryw yn cael eu datblygu drwy'r amser.

Mae Dwyrain Merthyr wedi bod yn destun cynllun adennil tir mawr, gan gynnig safleoedd at ddefnydd busnes a diwydiannol.

Mae safleoedd hefyd wedi'u datblygu yn Rhydycar, Georgetown a Cyfarthfa, gan ymgorffori cyfleusterau busnes a hamdden o'r radd flaenaf.

Mae safleoedd o'r math yma yn cynnwys Pant (Dowlais), Parc y Ddraig, Abercannaid, Pentrebach, Pentref Hamdden Merthyr Tudful a Chanolfan Busnes Orbit. Mae digon o eiddo masnachol ar gael yng nghanol Merthyr Tudful wrth iddo ffynnu, yn ogystal ag ar y cyrion.

Mae gan yr ardal Statws Ardal a Gynorthwyir, gan ddenu'r lefel uchaf o Gyllideb Ewropeaidd trwy Gydgyfeiriant, i helpu pobl leol a buddsoddwyr mewnol gyda phroject cymunedol neu fusnes cymwys.

Rydym yma i helpu

Beth bynnag fo'ch angen, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yma i helpu ganfod y safle perffaith sy'n addas i'ch anghenion, yn ogystal a'ch helpu gydag ariannu a logisteg sefydlu a dechrau gweithredu.

Am ragor o wybodaeth neu os hoffech gopi o'n Cofrestr Eiddo, defnyddiwch y ffurflen ‘Cysylltwch â ni’ ar ochr y dudalen hon.

Cysylltwch â Ni