Ar-lein, Mae'n arbed amser

Trwydded Alcohol ac Adloniant

Cyflwynodd Deddf Trwyddedu 2003 system drwyddedu newydd wedi’i gweinyddu gan yr awdurdod lleol yn ei rôl fel Awdurdod Trwyddedu’i ardal, ac wedi uno chwe threfn drwyddedu barod (alcohol, adloniant cyhoeddus, sinemâu, theatrau, tai lluniaeth hwyr nos a chaffis nos). Daeth y Ddeddf i rym ar 24 Tachwedd 2005.

Gweithgareddau y mae angen trwydded ar eu cyfer

Mae angen trwydded ar y gweithgareddau canlynol:

  • Gwerthu alcohol mewn siop
  • Cyflenwi alcohol gan neu ar ran clwb i aelod o’r clwb
  • Darparu adloniant rheoledig
  • Darparu lluniaeth hwyr nos
Amcanion Trwyddedu

Mae pwrpas y system drwyddedu newydd wedi’i seilio ar hyrwyddo pedwar ‘amcan trwyddedu’:

  • Atal trosedd ac anhrefn;
  • Diogelwch y cyhoedd;
  • Atal niwsans cyhoeddus; a
  • Diogelu plant rhag niwed.

Wrth gyflawni’i swyddogaethau trwyddedu rhaid i awdurdod trwyddedu hefyd ystyried:

  • Ei Bolisi Trwyddedu; ac
  • Unrhyw Nodiadau Arweiniad gan yr Ysgrifennydd Gwladol dan adran 182 y Ddeddf.

 

Trwydded Safle

Rhaid i unrhyw adeilad neu dir sy’n cynnal gweithgareddau y mae angen trwydded ar eu cyfer wneud cais am Drwydded Safle. Rhoddir y drwydded am oes y safle hyd nes iddi ddirwyn i ben neu hyd nes ei hildio.

Gall unrhyw un sydd dros 18 oed sy’n cynnal neu’n dymuno cynnal busnes sy’n defnyddio’r safle wneud cais am Drwydded Safle, er enghraifft tenant, perchennog neu Gwmni Cyfyngedig.

Pan fo Trwydded Safle’n awdurdodi gwerthu alcohol, rhaid bod gan y safle Ddeiliad Trwydded Bersonol wedi’i enwi’n Oruchwyliwr Penodedig y Safle.

Cyflwyno Cais am Drwydded Safle Newydd

I wneud cais am Drwydded Safle newydd bydd angen i chi gyflwyno’r canlynol i’r Adran Drwyddedu:

  • Ffurflen gais wedi’i llenwi
  • Cynlluniau ar gyfer y safle (graddfa 1:100)
  • Ffurflen ganiatâd wedi’i llenwi gan Oruchwyliwr Penodedig y Safle, os oes angen
  • Y ffi berthnasol

Rhaid cyflwyno copi llawn o’r cais hefyd i’r Awdurdodau Cyfrifol. Rhaid i’r ymgeisydd hefyd hysbysebu’r cais trwy roi “hysbysiad glas” yn ffenestr y safle am 28 diwrnod o gyfnod ymgynghori a rhoi hysbyseb yn y papur newydd lleol.

Os na cheir unrhyw sylwadau yn ystod y cyfnod ymgynghori, cymeradwyir y drwydded. Os ceir sylwadau caiff y cais ei gyfeirio at y Pwyllgor Trwyddedu i benderfynu arno.

Newid Trwydded Safle

Ar ôl cymeradwyo cais gall fod adegau pan fo angen newid y drwydded. Er enghraifft pan gaiff busnes ei werthu neu pan fo’r gweithiwr sy’n gweithredu fel Goruchwyliwr Penodedig y Safle’n gadael neu pan fo safle’n cael ei adnewyddu. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Adran Drwyddedu.

Clybiau Cymwys

Gall clwb aelodau nid er elw wneud cais am Dystysgrif Safle Clwb i’w alluogi i ddarparu adloniant rheoledig a chyflenwi alcohol i’w aelodau. Gall clybiau cymwys gynnwys Royal British Legion, clybiau gweithwyr, clybiau chwaraeon, ac ati. Nid oes angen deiliad trwydded bersonol i fod yn oruchwyliwr penodedig y safle ar glwb cymhwyso i wneud cais am Dystysgrif Safle Clwb.

Ffioedd

Mae’r ffi am Drwydded Safle newydd neu Gais Amrywio wedi’i seilio ar werth ardrethol. Y llywodraeth sy’n pennu’r strwythur ffioedd nid y Cyngor.

 

Hysbysiadau Digwyddiadau Dros Dro

Gellir rhoi Hysbysiadau Digwyddiadau Dros Dro i gynnal gweithgareddau dros dro y mae angen trwydded ar eu cyfer - er enghraifft digwyddiad un-tro neu achlysurol lle mae gweithgaredd yn para 168 awr ar y mwyaf heb fod i fwy na 499 o bobl.

Hysbysiad Digwyddiadau Dros Dro Safonol

Rhaid i’r Cyngor a’r Heddlu gael yr Hysbysiad o Ddigwyddiad Dros Dro (TEN) o leiaf deng niwrnod gwaith llawn cyn y digwyddiad. Mae’r arweiniad presennol yn datgan "Ystyr deng niwrnod gwaith yw deng niwrnod gwaith heb gynnwys diwrnod y mae’r digwyddiad yn dechrau, a heb gynnwys y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad".

Argymhellir bod ymgeiswyr yn cyflwyno’u Hysbysiad o Ddigwyddiad Dros Dro fis ymlaen llaw. Gall yr Heddlu ac Adran Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor wrthod Hysbysiad ar sail yr un o’r pedwar amcan trwyddedu, lle na cheir unrhyw wrthwynebiad gall y digwyddiad barhau. Os yw’r Heddlu a/neu Iechyd yr Amgylchedd yn gwrthwynebu’r Hysbysiad, bydd y cais yn cael ei gyfeirio at y Pwyllgor Trwyddedu i benderfynu arno.

Hysbysiad Digwyddiadau Dros Dro Hwyr

Mae Hysbysiad o Ddigwyddiad Dros Dro Hwyr yn un a gyflwynir rhwng 5 a 9 niwrnod gwaith llawn cyn dyddiad y digwyddiad. Gall yr Heddlu ac Adran Iechyd y Cyhoedd hefyd wrthwynebu Hysbysiad Hwyr oherwydd yr un o’r pedwar amcan trwyddedu. Os na cheir unrhyw wrthwynebiad i’r digwyddiad, gall fynd yn ei flaen, os ceir unrhyw wrthwynebiad caiff gwrth-hysbysiad ei gyflwyno a bydd y cais yn cael ei wrthod.

Am ragor o wybodaeth am y terfynau a sut i wneud cais am Hysbysiad o Ddigwyddiad Dros Dro, cysylltwch â’r Adran Drwyddedu.

Ffurflenni Cais ac Arweiniad

Mae’r holl ffurflenni cais swyddogol ac arweiniad, gan gynnwys Hysbysiadau Digwyddiadau Dros Dro ar gael ar GOV.uk. I wneud cais ar-lein defnyddiwch y dolenni ar ochr dde’r dudalen hon.

Cysylltwch â Ni