Ar-lein, Mae'n arbed amser
Storio Tân Gwyllt
Ceir rheolau cyfreithiol sy’n ymwneud â storio, gwerthu ac arddangos tân gwyllt.
Os ydych yn dymuno cael safle cyfanwerthu neu fanwerthu sydd wedi ei leoli ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful sy’n storio neu’n gwerthu hyd at ddwy dunnell o dân gwyllt (cynnwys ffrwydron net) mae’n rhaid i chi gael Trwydded Storio Ffrwydron gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.
Os ydych am storio mwy na dwy dunnell o ffrwydron, dylech wneud cais i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch am drwydded.