Ar-lein, Mae'n arbed amser
Daeth Deddf Gamblo 2005 i rym ar 1 Medi 2007 gan gymryd lle’r rhan fwyaf o gyfraith Gamblo Prydain Fawr a fodolai ar y pryd. Nod y Ddeddf oedd gosod strwythur gamblo mewn lle a oedd yn well ac yn fwy cynhwysfawr.
Mae’r holl gyfrifoldebau o ran caniatau gemau a betio ym Merthyr Tudful wedi eu cymryd oddi wrth yr ustusiaid trwyddedu, a byddant nawr yn cael eu rhannu rhwng y Comisiwn Gamblo a’r Cyngor Bwrdeistref Sirol fel awdurdod trwyddedu.
Mae’n ofynnol yn ôl Ddeddf Gamblo 2005 fod y Cyngor yn cyhoeddi Datganiad o Bolisi Gamblo sy’n gosod allan y polisïau y bydd y Cyngor yn eu cymhwyso yn gyffredinol, i hyrwyddo'r tri amcan trwyddedu wrth wneud penderfyniad ar gais a wneir yn unol â’r Ddeddf.
Ceir tri Amcan Trwyddedu Gamblo, sef:
Caiff tri phrif fath o drwyddedau eu cyflwyno yn unol â’r Ddeddf:-
Mae Trwyddedau Gweithredwr a Thrwyddedau Personol yn cael eu cyflwyno gan y Comisiwn Gamblo ac mae Trwyddedau Adeilad yn cael eu cyflwyno gan y Cyngor. Yn ychwanegol at y trwyddedau, mae nifer o drwyddedau caniatáu ar gael ar gyfer mathau penodol o gamblo.
Ceir chwe math o Drwydded Adeilad:
Am ragor o wybodaeth ynghylch ymgeisio cysylltwch â ni. Cyn derbyn cais am ganiatâd am Drwydded Adeilad, rhaid i’r ymgeisydd fod yn ddeiliad o’r drwydded weithredu briodol, ac os yw’n ofynnol, Drwyddedau Personol oddi wrth y Comisiwn Gamblo.
Caiff y trwyddedau caniatáu canlynol eu cyflwyno gan y Cyngor o dan Ddeddf Gamblo 2005:
Am ragor o wybodaeth am Beiriannau Gemau mewn Adeiladau Trwyddedig i Werthu Alcohol a Thrwyddedau Peiriant a Gemau Clwb cysylltwch â ni.
Mae "Canolfan Adloniant i’r Teulu Didrwydded" (CATD) yn cyfeirio at adeilad a gaiff ei ddefnyddio’n rhannol neu’n gyfan gwbl ar gyfer darparu peiriannau gemau D ar gael i’w defnyddio. Mae adeiladau o’r fath yn gwasanaethu teuluoedd ac mae’n bosibl y byddant yn darparu swm cyfyngedig o beiriannau Categori D (cyngwystl o 10c neu 30c ar y mwyaf pan nad yw’n ariannol). Caiff plant ddefnyddio’r peiriannau hyn am ddim o dan y drwydded hon.
Nid yw CATDau yn gofyn am drwydded weithredu a/neu Drwyddedau Personol oddi wrth y Comisiwn Gamblo, dim ond yn gofyn am drwydded a gyflwynwyd gan yr awdurdod drwyddedu leol y maen nhw.
Am ragor o wybodaeth ynghylch gwneud cais, cysylltwch â ni.
Caiff Trwydded Caniatáu Gwobrau ei chyflwyno gan y Cyngor i awdurdodi darpariaeth adnoddau ar gyfer gemau gyda gwobrau mewn adeiladau penodol.
Caiff gemau gwobrau eu diffinio yn Adran 288 y Ddeddf, ac mae’n cynnwys gemau ble na chaiff natur na maint y wobr ei bennu gan y nifer o bobl sy’n chwarae na’r swm a delir am neu a godir gan y gemau. Felly gemau ydyn nhw ble mae’r trefnydd yn gosod y gwobrau o flaen llaw, yn wahanol i gemau ble mae cyngwystlon y cyfranogwyr yn creu’r enillion. Diben gemau gwobrau yw caniatáu gemau lefel isel am ffi cyfranogi bach ac am wobrau bach. Mae chwarae bingo mewn arcêd adloniant ar lan y môr yn nodweddiadol o’r math hwn o gêm.
Dim ond person sy’n byw yn yr adeiladau perthnasol neu sy’n bwriadu byw ynddynt all wneud cais am Drwydded ac os yw’r ymgeisydd yn unigolyn, rhaid iddo/iddi fod dros 18 oed. Ni all deiliaid Trwyddedau Adeilad o dan y Ddeddf na deiliaid Trwyddedau Gemau Clwb wneud cais am Gemau Gwobrau.
Am ragor o wybodaeth am sut i ymgeisio cysylltwch â ni.
Caiff yr adeiladau canlynol eu hawdurdodi gan y Ddeddf i gynnig gemau gwobrau, yn amodol ar amodau penodol, ac nid yw’n ofynnol bod ganddynt Drwydded Caniatáu Gwobrau ar wahân: