Ar-lein, Mae'n arbed amser

Trwydded Tai Amlfeddiannaeth

Mae Deddf Dai 2004 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol yng Nghymru i drwyddedu tai ar gyfer amlfeddiannaeth (HMOs). Gelwir hyn yn drwyddedu gorfodol. Mae trwyddedu gorfodol ar gyfer tai amlfeddiannaeth yn gynllun sy’n gymwys ledled y DU. Dim ond tai amlfeddiannaeth sy’n bodloni’r meini prawf canlynol sy’n gymwys i’r cynllun:

  • Mae tai amlfeddiannaeth neu unrhyw ran ohonynt yn cynnwys tri llawr neu fwy; a
  • Wedi ei feddiannu gan bum person neu fwy; a
  • Wedi ei feddiannu gan berson sy’n byw mewn dau neu fwy tŷ sengl, â chyfleusterau a rennir.

Os yw eich eiddo yn bodloni’r meini prawf uchod, bydd angen i chi wneud cais am drwydded. Gweler ein llyfryn Gwybodaeth i’r Ymgeisydd am ragor o wybodaeth.

Gellir cael ffurflenni cais drwy gysylltu â ni.

Pa Safon sy’n Ofynnol?

Am ragor o wybodaeth am y safonau gweler y ddogfen isod.

Cofrestr Gyhoeddus o HMO y gellir eu Trwyddedu

Gallwch weld copi o'r o holl trwydeddau tai mewn amlfeddiannaeth (HMOs) isod:

Edrych ar y gofrestr HMO.

 

Cysylltwch â Ni

Oeddech chi’n chwilio am?