Ar-lein, Mae'n arbed amser
Trwydded Lletya Anifeiliaid
Mae angen i unrhyw un sydd am gynnal busnes lle darperir llety i gathod neu gŵn pobl eraill, gael eu trwyddedu yn unol â Deddf Sefydliadau Lletya Anifeiliaid 1963. Mae angen y drwydded hon ar gyfer yr amgylchedd cenel traddodiadol ac ar gyfer lletya mewn eiddo domestig.
Er mwyn gwneud cais, mae'n ofynnol ichi gyflwyno’r dogfennau canlynol:
• ffurflen gais;
• yswiriant atebolrwydd cyhoeddus;
• cynllun o'r safle.
Y ffi ar gyfer y cais yw £200. Gallwch ymgeisio drwy’r post neu yn bersonol yn y Ganolfan Ddinesig ar ôl gwneud apwyntiad gyda’r Adran Drwyddedu.
Unwaith i’r cais a’r ffi lawn gyrraedd yr Adran Drwyddedu, caiff archwiliad trwyddedu ei gynnal yn y safle gydag Ymarferydd Milfeddygol awdurdodedig. Bwriad yr archwiliad yw sicrhau eich bod yn bodloni holl amodau’r Awdurdod hwn.
Bydd trwyddedau yn para o’r dyddiad y’u cyflwynwyd tan 31 Rhagfyr y flwyddyn galendr honno.
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch lles anifeiliaid o fewn sefydliad lletya neu, os ydych yn credu bod unrhyw un yn masnachu heb drwydded, cofiwch gysylltu â'r Adran Drwyddedu.