Ar-lein, Mae'n arbed amser

Trwydded Anifeiliaid Gwyllt Peryglus

Rhaid i unrhyw berson sy’n cadw anifail sydd wedi’i ddiffinio’n beryglus o dan Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976 gael trwydded. Bwriad y drwydded yw diogelu iechyd a lles yr anifail a sicrhau diogelwch yr anifail a diogelwch pobl eraill.


Gellir gweld rhestr o’r anifeiliaid y mae angen trwydded ar eu cyfer gan ddefnyddio’r linc ar y dudalen hon.


I wneud cais, mae angen y dogfennau canlynol:
• ffurflen gais ac atodlen;
• yswiriant atebolrwydd cyhoeddus;
• cynllun o’r safle.


Ffi’r cais yw £345.13.  Gallwch ymgeisio drwy’r post neu yn bersonol yn y Ganolfan Ddinesig ar ôl gwneud apwyntiad gyda’r Adran Drwyddedu.


Unwaith y bydd yr Adran Drwyddedu wedi cael y cais llawn a’r ffi, cynhelir arolwg trwyddedu ar y safle gyda Milfeddyg awdurdodedig. 

Bydd trwyddedau yn para o’r dyddiad y’u cyflwynwyd tan 31 Rhagfyr y flwyddyn galendr honno.