Ar-lein, Mae'n arbed amser

Trwydded Bridio Cŵn

Dylai unrhyw berson sy’n cadw sefydliad sy’n bridio cŵn feddu ar drwydded o dan Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014. Mae’r rheoliadau’n nodi bod angen trwydded fridio lle mae unigolyn yn cadw mwy na 3 ast fridio ac yn:
• bridio 3 neu ragor o dorllwythi mewn blwyddyn, neu; 
• hysbysebu 3 neu ragor o dorllwythi mewn blwyddyn, neu: 
• yn darparu cŵn bach sydd wedi eu geni o 3 torllwyth neu ragor, neu
• yn hysbysebu cwmni sy’n bridio neu’n gwerthu cŵn bach.

Er mwyn gwneud cais, mae’n ofynnol i ddarparu’r dogfennau canlynol:
• ffurflen gais;
• Cynllun Gwella a Chyfoethogi;
• Cynllun Cymdeithasoli Cŵn bach;
• Adroddiad iechyd gan eich milfeddyg;
• Cynllun o’r safle.


Cost y cais yw £279.17.  Gallwch ymgeisio drwy’r post neu yn bersonol yn y Ganolfan Ddinesig ar ôl gwneud apwyntiad gyda’r Adran Drwyddedu.


Unwaith bydd y taliad wedi ei dderbyn yn llawn gan yr Adran Drwyddedu bydd archwiliad trwyddedu yn cael ei gynnal o’r safle gan Ymarferwr Milfeddygol Awdurdodedig. Diben yr archwiliad yw sicrhau fod holl amodau’r Awdurdod yn cael eu cyflawni.


Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch lles anifeiliaid oddi fewn i sefydliad sy’n bridio neu y credwch fod unigolyn yn bridio heb drwydded, cysylltwch â’r Adran Drwyddedu.

Cysylltwch â Ni