Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cofrestru Aciwbigwyr
I wneud aciwbigo rhaid i’r safle a’r person sy’n gwneud y gwaith fod yn gofrestredig gyda’r Cyngor.
Gellir argraffu ffurflen gofrestru trwy glicio ar y ddolen ar ochr dde’r dudalen hon. Amlinellir y ffi gofrestru ar waelod y ffurflen gofrestru. Nid oes angen cofrestru os yw’n cael ei wneud dan oruchwyliaeth ymarferydd meddygol cofrestredig.
Pwrpas cofrestru yw atal heintio’r un y mae’i groen yn cael ei dyllu. Rhaid i bersonél a safleoedd tyllu croen cofrestredig gydymffurfio ag is-ddeddfau a ddyluniwyd i atal haint.