Ar-lein, Mae'n arbed amser
Trwydded wenwynau
Cofrestru Gwenwyn
Caiff manwerthu gwenwyn ei reoli gan Ddeddf Wenwynau 1972. Mae Gorchymyn Rhestr Wenwynau 1982 yn cynnwys rhestr o wenwynau sy’n gynwysedig yn y Ddeddf Wenwynau. Mae Rhan I y rhestr yn cynnwys gwenwynau y gellir ddim ond eu gwerthu gan fferyllydd cofrestredig. Mae Rhan II y rhestr yn cynnwys y gwenwynau na ellir eu gwerthu oni bai eich bod wedi cofrestru i wneud hynny â’ch Awdurdod Lleol.
Cofrestru ar gyfer Gwerthu Gwenwyn Di-Feddygol
Cyn gwerthu gwenwynau a restrir yn Rhan II Y Ddeddf Wenwynau rhaid gwneud cais i’r Cyngor i gael eich gosod ar restr y personau a all werthu gwenwynau Rhan II.
Ceir ffi ymgeisio sy’n rhaid ei dalu ar adeg gwneud y cais. Ar hyn o bryd, £30.80 yw’r ffi ar gyfer trwydded newydd neu £16.24 i’w adnewyddu. Ceir tâl o £8.30 ar gyfer newid enw.
Os ychwanegir enw ar y rhestr o bersonau sydd â’r hawl i werthu gwenwynau Rhan II, yna caiff yr enw ei dynnu oddi ar y rhestr ar 31 Mai bob blwyddyn, oni bai bod cais yn cael ei wneud a’i dderbyn i gadw’r enw ar y rhestr. Noder bod y ffioedd a ddyfynnir uchod yn gymwys ar gyfer 2009/2010.
Gwenwyn sy’n Gymwys i Restr II y Rhestr Wenwynnau
Caiff y gwenwynau canlynol eu rhestru yn Rhan II y Rhestr Wenwynau:
- aldicarb
- alffa-cloralos
- amonia
Y cyfansoddion arsenig canlynol:
- calsiwm arsenitau
- copr asetoarsenit
- copr arsenitau
- copr arsenid
- plwm arsenitau
Yr halwynau bariwm canlynol:
- bariwm carbonad
- bariwm silicofflwrid
- carboffwran
- cylchohecsimid
- deunitrocresolau (DNOC), eu cyfansoddion â metel neu fas
- dinoseb, ei gyfansoddion â metel neu fas
- dinoterb
- drasocsolon a’i halwynau
- endoswlffan
- endothal a’i halwynau
- endrin
- cyfansoddion ffentin
- fformaldehyd
- asid fformig
- asid hydroclorig
- asid hydrofflwrig; metal alcali bifflwridau, amoniwm bifflwrid, sodiwm silicofflwrid
- clorid mercwrig, iodid mercwrig, cyfansoddion organig mercwri ac eithrio cyfansoddion sy’n cynnwys grŵp methyl (CH3) sy’n dolennu ag atom mercwri
- ocsaladau metelig
- methomyl
- nicotin a’i halwynau a chyfansoddion chwartaidd
- asid nitrig
- nitrobensin
- ocsamyl
- paracwat a’i halwynau
- ffenolau (fel a ddiffinir yn Rhan I y Rhestr Wenwynau) mewn sylweddau sy’n cynnwys llai na 60% o bwysau o ran pwysau ffenolau a chyfansoddion ffenolau â metelau mewn sylweddau sy’n cynnwys llai na chyfwerth 60% pwysau o ran pwysau ffenolau
- asid ffosfforig
- cyfansoddion ffosfforws – asinffos-methyl, clorffenfinffos, demffion, demeton-S-methyl swlffon, dialiffos, diclorfos, diocsathion, diswlffoton, ffonoffos, mecarbam,meffosaffolan methidathion, mefinffos, omethoat, ocsidemeton-methyl, parathion, ffencapton, fforat, ffosffamidon, pirimiffos-ethyl, cwinalffos, thiometon, thionasin, triasoffos, famidothion;
- potasiwm hydrocsid
- sodiwm hydrocsid
- sodiwm nitrad
- asid swlffiwrig
- thioffanocs
- sinc ffosffid