Ar-lein, Mae'n arbed amser
Trwydded Caffi Stryd
Caiff caniatâd i osod byrddau a chadeiriau ar y briffordd ei gyflwyno o dan Adran VIIA Deddf Priffyrdd 1980. Ym Merthyr Tudful mae’r cynllun wedi ei gyflwyno i annog y ddarpariaeth o “Ardal Gaffi” gyda’r golwg y bydd yn helpu i wneud y gorau o’r defnydd o fannau cyhoeddus, o fudd i’r economi leol ac ychwanegu at y cyfleusterau a gaiff eu cynnig i bobl sy’n ymweld â Merthyr Tudful ac yn gweithio a byw yno.
Mae’n ofynnol cael trwyddedau caniatáu gosod byrddau a chadeiriau ar briffordd gyhoeddus yn unig, (nid oes angen trwydded ar gyfer byrddau a chadeiriau ar dir preifat).
Sut i Ymgeisio
Er mwyn ymgeisio am drwydded i osod Byrddau A Chadeiriau ar Briffordd Gyhoeddus, rhaid bod eich adeiladau wedi eu lleoli o fewn yr ardal sy’n gynwysedig yn y cynllun trwyddedu a’i fod yn gaffi, tafarn neu’n sefydliad arlwyo arall sy’n gweini bwyd a diod y tu fewn i’r adeilad.
Mae’n ofynnol bod yr holl geisiadau yn bodloni’r gofynion angenrheidiol a osodir yn nhelerau ac amodau’r cynllun ac fe gynghorir unrhyw un sy’n bwriadu ymgeisio, ddarllen y nodiadau canllaw yn gyntaf.
Rhaid i chi fod dros 18 oed a chyflwyno’r canlynol i’r Adran Drwyddedu:
- Ffurflen gais
- Cynllun o’r ardal arfaethedig
- Ffotograffau a/neu luniau o’r dodrefn arfaethedig
- Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus hyd at £5,000,000 o werth
- Y ffi: Ffioedd a Thaliadau ¦ Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Cyfnod Ymgynghori
Pan fo cais cyflawn wedi ei dderbyn gan yr Adran Drwyddedu mae cyfnod ymgynghori statudol 28 niwrnod yn dechrau, ble mae’n rhaid gosod hysbysiad ar yr adeilad, a bydd copi o’r cais yn cael ei anfon at yr unigolion/cyrff canlynol i ofyn am eu cydsyniad/gwrthwynebiad:
- Pennaeth Iechyd Cyhoeddus
- Rheolwr Grŵp Rhwydwaith Priffyrdd
- Pennaeth Cynllunio Trefol
- Rheolwr Canol y Dref
- Heddlu De Cymru
- Gwasanaeth Tân De Cymru
- Perchnogion/Preswylwyr yr adeiladau sydd i’w heffeithio’n faterol gan y cais
Pan fo cais yn bodloni gofynion angenrheidiol a osodir yn y nodiadau canllaw, amodau a thelerau’r cynllun a dim gwrthwynebiad mewn perthynas â’r cais, caiff y drwydded ei chyflwyno am gyfnod o 12 mis.
Beth sy’n Digwydd Nesaf?
Pan gaiff gwrthwynebiad ei dderbyn mewn perthynas â’r cais, bydd y cais yn cael ei benderfynu gan yr Pennaeth Gwarchodaeth a Gwasanaethau Diogelwch.
Nid oes hawl apelio yn erbyn gwrthodiad cais i osod byrddau a chadeiriau ar y briffordd.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Adran Drwyddedu.