Ar-lein, Mae'n arbed amser

Trwydded Cerbyd Hacni (Tacsi)

Mae’n rhaid i bob cerbyd sydd â 8 sedd teithiwr neu lai ac a ddefnyddir i gludo teithwyr sy’n talu ffi fod yn drwyddedig. Gall Cerbydau Hacni gael eu hurio o arhosfan tacsis, gael eu galw wrth ymyl y ffordd neu gael eu harchebu o flaen llaw.

Er mwyn trwyddedu Cerbyd Hacni â’r Awdurdod hwn, mae’n rhaid i’r cerbyd fod o dan 4 mlwydd oed pan fydd yn cael ei drwyddedu am y tro cyntaf ac mae’n rhaid iddo fod yn ddu. Wedi iddo gael ei drwyddedu, mae’n rhaid i’r cerbyd gael golau ar ei frig yn ogystal â chael mesurydd tacsi wedi ei ffitio y tu fewn i’r cerbyd. Dylid arddangos plât drwyddedu gwyn ar y cefn ac ar sgrin wynt y cerbyd yn ogystal â sticeri ar y drysau blaen.

Mae’r Awdurdod hwn yn gweithredu Polisi Defnydd Bwriadol parthed Cerbydau Hacni.

Mae’n rhaid i’r cerbyd lwyddo ym mhrofion ein gorsaf blatiau dynodedig cyn y gall cais gael ei wneud. Manylion yr orsaf blatio yw Mototech Merthyr, 01685 722875.

Mae’n rhaid darparu’r canlynol er mwyn gwneud cais am drwydded Cerbyd Hacni:

• Ffurflen gais sydd wedi ei chwblhau  - ffurflen gais;
• Dogfen Gofrestru’r cerbyd;
• Tystysgrif yswiriant dilys;
• Atodlen yswiriant (os nad yw’r cerbyd wedi ei restru ar y dystysgrif yswiriant;)
• Tystysgrif MOT yn ogystal â thystysgrif gwiriadau ychwanegol ar gyfer tacsis.

Mae’n rhaid i bob cais gael ei gwneud wyneb yn wyneb. Er mwyn gwneud cais, mae gofyn i chi drefnu apwyntiad gyda’r Adran Drwyddedu. Os byddwch yn cyrraedd heb wneud apwyntiad, mae’n annhebygol y byd staff yn eich gweld. Cysylltwch â’r Adran Drwyddedu ar 01685 725000 er mwyn trefnu apwyntiad. Nodwch, os na fyddwch yn dod â’r holl ddogfennau a restrir uchod i’ch apwyntiad, ni fydd y cais yn cael ei dderbyn.

Cynghorir fod y dogfennau canlynol yn cael eu darllen cyn i chi wneud apwyntiad:

Cysylltwch â Ni