Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cyngor Cyfreithiol Cyffredinol

Mae Adran Gyfreithiol Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cynghori Adrannau mewnol yn unig. Ni all y Cyngor roi unrhyw fath o gyngor cyfreithiol i’r cyhoedd.

O ble ydw i’n gallu cael cyngor cyfreithiol?

Cyfreithwyr Preifat

Byddwn yn helpu’r cyhoedd mewn unrhyw ffordd ond bydd angen i chi gael cyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr preifat. Mae llawer o gwmnïau Cyfreithwyr lleol yn gweithredu ym Merthyr Tudful a fyddai’n fwy na bodlon helpu ag unrhyw faterion cyfreithiol sydd gennych.

Cyngor ar Bopeth

Fel arall gallwch gysylltwch â Cyngor ar Bopeth. Mae CAB yn darparu cyngor annibynnol, cyfrinachol a diduedd am ddim i aelodau’r cyhoedd gan gynnwys ar faterion cyfreithiol.

I drefnu apwyntiad cysylltwch â CAB yn uniongyrchol. Ni all y Cyngor fod yn atebol am gynnwys gwefannau allanol.