Ar-lein, Mae'n arbed amser

Noddi Cylchfan

Cynllun Noddi Cylchfan Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Noddi clychfanNoddi Cylchfan

Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (CBSMT) nifer o gyfleoedd noddi cylchfan ar gael i fusnesau a sefydliadau yn yr ardal, sydd â diddordeb mewn hysbysebu i gynulleidfa helaeth sy’n teithio heibio.

Mae’r costau ar gyfer hysbysebu fel a ganlyn:

 

Cyfeirnod Disgrifiad Ar gael Ffi Flynyddol
1 Rhydycar na 3,500
2 Caedraw na 3,500
3 Maes Parcio’r Orsaf  ydy 3,500
4 Penydarren na 2,500
5 Dowlais ydy 2,500
6 Heol Melin yr Afr ydy 2,500
7 Twnnel Trevithick (ger garej Vauxhall) na 3,500
8 Abercannaid (ger Parc y Ddraig / Willows) ydy 1,500
9 Ystâd Ddiwydiannol Dowlais (cylchfan Galon Uchaf ) na 2,500
10 Gurnos Canolog  ydy 1,500
11 Ysbyty’r Tywysog Siarl  ydy 2,500
12 Ffordd Gylchol Gurnos  ydy 2,500
13 Troedyrhiw ydy 2,500
14 Fiddlers Elbow na 3,500
15 Gellideg (Heol Abertawe)  na 3,500
16 Pengarnddu (ger Lidl/Asda) ydy 3,500

Cyfeiriwch hefyd at y cynllun atodedig sy’n dangos lleoliad pob cylchfan. 

Bydd CBSMT yn gyfrifol am y dylunio, cynhyrchu a chodi’r arwyddion yn unol â’r meini prawf canlynol:

  • Bydd yr arwyddion yn 500mm x 1200mm.
  • Bydd cefndir gwyn gan yr arwyddion, er y gall logos fod mewn lliw llawn.
  • Gellir cynnwys enw, logo a datganiad byr am y cwmni ar yr arwyddion.
  • Bydd yr arwyddion hefyd yn cynnwys “Ymwelwch â Merthyr/Visit Merthyr” ynghyd â logo'r Cyngor.
  • Bydd y nifer o arwyddion a osodir ar gylchfan yn gyfyngedig i’r nifer o bwyntiau mynediad hyd at uchafswm o 4.
  • Ni fydd yr arwyddion yn adlewyrchol.
  • Bydd yr arwyddion yn sefyll ohonynt eu hunain a heb eu goleuo.
  • Caiff yr arwyddion eu lleoli ar lefel y tir.

Bydd CBSMT yn gyfrifol am gael unrhyw ganiatâd hysbysebu.

Bydd y nawdd yn parhau am gyfnod o 3 blynedd, ac yn dilyn hynny bydd argaeledd y cyfle am nawdd yn cael ei ail-hysbysebu.

Os derbynnir mwy nag un mynegiant o ddiddordeb erbyn y dyddiad cau ar gyfer unrhyw gylchfan, bydd pob parti sy’n mynegi diddordeb yn cael y cyfle i gyflwyno cais pellach. Bydd CBSMT yn derbyn y cais uchaf a dderbynnir.

Deil CBSMT ar yr hawl i wrthod nawdd oddi wrth unrhyw fusnes neu sefydliad y mae’n ystyried yn amhriodol.

CYSYLLTIADAU

Allyson Barnett 

01685 727417 

Printing@merthyr.gov.uk

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Uned 5
Parc Busnes Triongl 
Pentrebach
Merthyr Tudful
CF48 4TQ

Cysylltwch â Ni