Ar-lein, Mae'n arbed amser

Busnesau Lletya

Mae Merthyr Tudful yn cynnig ystod eang o fusnesau lletya sy’n addas i bob cyllideb a chwaeth. Mae’r sector lletya ym Merthyr Tudful yn ymfalchïo mewn darparu croeso cynnes Cymreig a gwasanaeth cyfeillgar. Mae ein darparwyr llety’n bobl wybodus ac mae gan y rhan fwyaf ddealltwriaeth lawn o’r sector twristiaeth ym Merthyr Tudful, felly maen nhw’n gallu rhoi cyngor i chi ar ble i ymweld ag ef ym Merthyr Tudful a’r cyffiniau.

Mae gan Ferthyr Tudful ddewis eang o fusnesau lletya ac mae’r ardal yn elwa ar amryw raddau o westai, llety gwely a brecwast, tai bynciau, llety hunanarlwyo, tai gwesteion a gwersylloedd a safleoedd carafannau.

Am wybodaeth am sut i gadw lle a rhestr lawn o’n holl fusnesau lletya unigol, ewch i Wefan Dewch i Ferthyr.

Canllaw Twristiaeth Dewch i Ferthyr

Bu sector twristiaeth Merthyr Tudful yn datblygu’n raddol dros y blynyddoedd diwethaf, sydd wedi arwain at yr ardal yn datblygu’n gyflym yn llecyn allweddol yn y DU o ran twristiaeth a threftadaeth. Wrth ystyried hyn mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn gweithio ar hyn o bryd ar Ganllaw Dewch i Ferthyr. Bydd y ‘Canllaw’ yn cynnig llwyth o wybodaeth am ein treftadaeth, gweithgareddau twristiaeth sydd ar gael, atyniadau lleol, ble i fwyta ac aros a llawer iawn mwy. Byddwch siŵr o gael copi pan gaiff ei gyhoeddi yn yr haf.

Mae Canllaw Twristiaeth Croeso Merthyr ar gael ar wefan Croeso Merthyr.

Am ragor o wybodaeth e-bostiwch: share@merthyr.gov.uk