Cynllun Rheoli Cyrchfan 2015-2018
Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cynllun Rheoli Cyrchfan 2015-2018
Beth yw Rheoli Cyrchfan?
Mae rheoli cyrchfan yn ymwneud â chyflwyno profiad ymwelwyr o safon yn y fan a’r lle sy’n bodloni neu’n rhagori ar ddisgwyliadau ac a fydd yn sicrhau bod pobl yn dychwelyd ac yn lledaenu’r gair.
Anogir a chefnogir rheoli cyrchfan gan Visit Wales. Bydd cyrchfannau a gaiff eu rheoli a’u datblygu’n dda nid yn unig yn lleoedd gwych i ymweld â nhw, ond hefyd yn lleoedd gwych i fyw a gweithio.
Y Weledigaeth Strategol
Mae’r sector twristiaeth wedi dod yn flaenoriaeth yn yr Awdurdod Lleol gan ganolbwyntio ar ddatblygu’i gynnyrch ymhellach a gwella’r cynnyrch twristiaeth presennol. Mae’r Awdurdod Lleol yn edrych ar weithio gyda gwahanol bartneriaethau allweddol yn ogystal â datblygu perthynas â’r busnesau twristiaeth lleol gyda’r nod o wella’u cynnyrch a’u gwasanaethau ymhellach a dweud wrthyn nhw am ddatblygiadau newydd a phresennol.
Datganiad gweledigaeth 2020 Merthyr Tudful yw:
Cryfhau ein safle fel Canolfan Ranbarthol ardal Blaenau’r Cymoedd a bod yn lle i ymfalchïo ynddo lle mae pobl eisiau:
- Byw, gweithio a chael bywyd cyflawn
- Ymweld, mwynhau a dychwelyd
- Dysgu a datblygu sgiliau i gyflawni’u huchelgeisiau.
Yn fwy penodol ar gyfer y sector twristiaeth, Nodau Gwasanaeth Twristiaeth Merthyr Tudful yw:
- Uchafu’r cyfleoedd a grëir trwy dwristiaeth
- Sefydlu ethos o safon uchel ymhob darpariaeth dwristiaeth o ran cyfleusterau, digwyddiadau, isadeiledd a gwasanaethau
- Uchafu defnydd effeithiol o adnoddau marchnata twristiaeth y Fwrdeistref Sirol
- Amlygu a blaenoriaethu sectorau/meysydd allweddol lle mae potensial i ddatblygu a thyfu twristiaeth
- Hwyluso gwaith ymchwil parhaus i weithgareddau twristiaeth, methodoleg boddhad a thueddiadau’r farchnad er mwyn cadw tu blaen i gystadleuwyr
- Sefydlu meddylfryd rhwydweithio effeithiol ymhlith yr amryw randdeiliaid yn y Fwrdeistref Sirol sy’n cynnwys busnesau’r sector twristiaeth, swyddogion CBSMT, aelodau’r gymuned a chyrff twristiaeth eraill.
Cynllun Gweithredu
Mae’r cynllun gweithredu wedi’i rannu’n dair prif adran ac o dan bob un o’r penawdau nodwyd camau bras angenrheidiol i wneud gwelliannau sylweddol er mwyn gwella ansawdd bywyd ac yn ei dro profiad yr ymwelwyr o’r cyrchfan:
- Marchnata/cyhoeddusrwydd a chanfyddiad (gan gynnwys marchnata, ymchwil ac ymglymiad y gymuned)
- Datblygu Cyrchfan (cydlynu gweithgareddau a gwasanaethau sy’n effeithio ar yr ymwelydd a’i fwynhad o’r cyrchfan, e.e. trafnidiaeth, llwybrau, gwybodaeth, cyfleusterau cyhoeddus, parcio ac ati)
- Datblygu Cynnyrch (darparu map ar gyfer datblygu asedau allweddol Merthyr Tudful)
- Bydd CBSMT yn parhau i adeiladu ar lwyddiannau’r tair blynedd diwethaf ac yn parhau i wella’r Fwrdeistref fel Cyrchfan Ymwelwyr ond yn cyfrannu’n sylweddol at ddatblygiad economaidd Merthyr Tudful
Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, a fydd yn cael eu diweddaru yn 2015/16. Mae’r Tîm Datblygiad Economaidd a Thwristiaeth Strategol wedi cynnal ail archwiliad trylwyr o’r blaenoriaethau a ddefnyddiodd adborth a gasglwyd yn y Diwrnod Cyrchfan diwethaf yn 2014. Wrth symud ymlaen bydd CBSMT yn parhau i adeiladu ar lwyddiannau’r tair blynedd diwethaf ac yn parhau i wella’r Fwrdeistref Sirol fel cyrchfan ymwelwyr allweddol yng Nghymru.