Ar-lein, Mae'n arbed amser

Iechyd a Llesiant

Cymryd mantais o ganolfannau hamdden modern y Cyngor neu sicrhau cefnogaeth arbenigol ar gyfer problemau corfforol neu iechyd meddwl.

Canolfannau Hamdden

Mae canolfannau hamdden Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful yn cynnig sawl gym modern, amrywiaeth o ddosbarthiadau o Aerobics Dŵr i Zumba a llawr mwy.

Yn ychwanegol, mae’r canolfannau yn cynnig, fel rhan o fenter nofio am ddim i gyn-filwyr Llywodraeth Cymru, gyfleoedd nofio am ddim i bobl 60 oed a hŷn yn ystod tymor yr ysgol, cyfleodd nofio am ddim i rai 16 oed ac iau yn ystod gwyliau’r ysgol a chyfleoedd nofio am ddim i deuluoedd dros benwythnosau.
Er mwyn gweld beth sy’n digwydd yng Nghanolfannau Hamdden Merthyr Tudful ewch i www.merthyrleisure.co.uk.

Datblygu Chwaraeon

Ceir Tîm Datblygu Chwaraeon yn yr awdurdod lleol i helpu i arwyddbostio pobl at weithgareddau.
Er mwyn gweld y gweithgareddau maen nhw’n eu cynnig ewch i www.activemerthyr.co.uk.

Iechyd Meddwl  – GIG Cyn-filwyr

Prif nod GIG Cyn-filwyr Cymru yw gwella iechyd meddwl a llesiant cyn-filwyr sydd â phroblem iechyd meddwl sy’n berthnasol i’r lluoedd arfog. Yr ail nod yw cyflawni hyn drwy ddatblygu gwasanaethau cynaliadwy, hygyrch ac effeithiol sy’n diwallu anghenion cyn-filwyr ag anawsterau iechyd meddwl a llesiant sy’n byw yng Nghymru. Mae pob Bwrdd Iechyd Lleol wedi penodi clinigwr profiadol fel Therapydd Cyn-filwyr sydd â diddordeb neu brofiad o broblemau iechyd (meddwl) milwrol. Bydd y clinigwr yn derbyn cyfeiriadau oddi wrth staff gofal iechyd, Meddygon Teulu, elusennau cyn-filwyr (yn cynnwys Change Step, Combat Stress, SSAFA, Y Lleng Brydeinig Frenhinol a hunan gyfeiriadau oddi wrth bersonél a oedd arfer gwasanaethu yn y fyddin.
Am ragor o wybodaeth ewch i www.veteranswales.co.uk neu ffoniwch 0800 132 737.

Anableddau Corfforol

Mae cefnogaeth yn y cartref yn cynnwys addasiadau, cymhorthion byw, gofal seibiant, cymorth â gwaith tŷ, trafnidiaeth arbenigol, mynediad at ganolfannau dydd a thai byw’n annibynnol sy’n eich paratoi chi at fyw’n annibynnol.
Am ragor o wybodaeth ewch i’n tudalen Adran Anabledd neu ffoniwch 01685 725000.

Gofal ac Adferiad Canolradd

Gallai’r tîm hwn eich helpu chi yn ôl ar eich traed ar ôl salwch neu anaf. Maen nhw’n gosod eich nod gyda chi – o gerdded i’r siopau i gerdded i lawr y eil – ac yn gweithio’n ddwys gydag amrywiaeth o therapyddion i’w wneud i ddigwydd.
Am ragor o wybodaeth ewch i: yma  neu ffoniwch 01685 725000.

Cam-ddefnyddio Sylweddau

Mae’r Pwynt Mynediad Sengl Newydd ar gyfer Cyffuriau ac Alcohol yn eich galluogi chi i sicrhau’r help sydd ei angen arnoch yn gyflym ac yn gyfrinachol.
Am ragor o wybodaeth ewch i’n gwefan Camddefnyddio Sylweddau ar y wefan neu ffoniwch 0300 333 0000.

Gofalwyr

Mae miloedd o bobl, yn cynnwys plant a phensiynwyr yn rhoi o’u hamser i ofalu am rywun sy’n sâl, anabl neu wedi ei effeithio gan gam-ddefnyddio sylweddau neu broblemau iechyd meddwl. Mae angen cefnogaeth ar ofalwyr hefyd ac mae yn lawer ohono ar gael yn ogystal â chymorth penodol i ofalwyr ifanc.
Am ragor o wybodaeth ewch i’n tudalen Gofalwyr neu ffoniwch 01685 725000.

Cam-drin Domestig

Gall effeithio ar bobl o bob oedran. Mae SMT Merthyr Tudful yn cynnig yr holl wasanaethau o dan yr un to felly gallwch alw heibio am gymorth.
Am ragor o wybodaeth ewch i www.smt.org.uk.

Gwasanaethau Synhwyraidd

Gall tîm o arbenigwyr helpu’r rheini sy’n ddall, yn gweld yn rhannol neu’n fyddar gan eich helpu i gynnal eich annibyniaeth ac elwa o offer a all helpu.
Am ragor o wybodaeth ewch i’n tudalennau gwe colled synhwyraidd neu ffoniwch 01685 725000