Ar-lein, Mae'n arbed amser
Brexit
Ar y cyd â’n partneriaid rhanbarthol, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi bod yn paratoi ar gyfer ymadawiad Prydain â’r Undeb Ewropeaidd ar 31 Ionawr 2020. Rydym yn gweithio â CLlLC a Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod gennym ddull cydweithiol a chyson o weithio ar draws llywodraeth leol yng Nghymru wrth ymateb i Brexit.
Mae nifer o wefannau defnyddiol wedi cael eu sefydlu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU er mwyn darparu gwybodaeth ddefnyddiol a swyddogol ynghylch Brexit. Gallwch ddod o hyd i ddolenni ar gyfer y safleoedd ar y dudalen hon.