Ar-lein, Mae'n arbed amser

Datganiad Mynediad ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym am i gymaint o bobl â phosib ddefnyddio’r wefan. Mae hynny, er enghraifft yn golygu y dylech fod yn gallu: 

  • newid lliwiau, lefelau gwrthgyferbyniad a ffontiau 
  • gwneud pethau’n fwy hyd at 300% heb fod y testun yn gadael y sgrin
  • cyrchu’r mwyafrif o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • cyrchu’r mwyafrif o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y mwyafrif o’r wefan drwy ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver).

Rydyn hefyd wedi ceisio gwneud testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet (dolen allanol) gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon?

Rydym yn gwybod nad yw ambell ran o’r wefan yn gwbl hygyrch:

  • nid yw’r mwyafrif o ddogfennau PDF yn gwbl hygyrch ar gyfer meddalwedd darllen ar y sgrin
  • newid lliwiau, lefelau gwrthgyferbyniad a ffontiau

Adborth a Gwybodaeth Gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon, mewn fformat gwahanol fel PDF, print bras, darllen hawdd, recordiad sain neu braille:

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi mewn 10 diwrnod gwaith.

Adrodd am broblemau hygyrchedd y wefan hon 

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych yn canfod unrhyw broblemau nad sydd yn cael eu rhestri ar y dudalen hon neu eich bod yn teimlo nad ydym yn cyflawni gofynion rheoliadau hygyrchedd, defnyddiwch ein ffurflen adrodd yn ôl er mwyn cysylltu â ni neu cysylltwch â ict.developmentteam@merthyr.gov.uk.

Adrodd am broblem hygyrchedd

Gweithdrefn Gorfodi

Mae’r comisiwn cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCaHD) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd 2018 (Rhif 2) Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol,) (y ‘rheoliadau hygyrchedd.’) Os nad ydych yn fodlon â’r ffordd yr ydym yn ymateb â’ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a chymorth ar Gydraddoldeb (EASS).

Cysylltu â ni ar y ffôn neu ymweld â ni

Rydym yn darparu gwasanaeth neges destun ar gyfer pobl sydd yn fyddar neu sydd â nam ar eu clyw neu eu lleferydd.

Mae gan ein swyddfeydd ddolenni sain neu os ydych yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad, gallwn drefnu fod dehonglydd Iath arwyddo BSL yn bresennol. (https://www.merthyr.gov.uk/resident/contactuspage)

Gwybodaeth dechnegol ynghylch hygyrchedd y wefan hon

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn ymroddedig i sicrhau fod ei wefan yn hygyrch, yn unol â  Rheoliadau Hygyrchedd 2018 (Rhif 2) Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol.) 

Mae’r wefan yn cydymffurfio’n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd cynnwys y We fersiwn 2.1 (dolen allanol)  safon AA, o ganlyniad i’r rhestr isod sydd yn cynnwys yr hyn nad ydyw’n cydymffurfio ag ef:  

  • Nid yw dogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch ar gyfer meddalwedd darllen ar y sgrin

Mae’r safle hwn yn cynnwys hysbysebion trydydd parti ac nid yw pob cod html yn cydfynd â safonau AA. Fodd bynnag, mae hyn wedi eu heithrio rhag cyflawni rheoliadau hygyrchedd (dolen allanol) gan ei fod yn gynnwys trydydd parti.

Problemau â PDF a dogfennau eraill

Nid yw llawer o’n dogfennau PDF a Word yn cwrdd â safonau hygyrchedd – nid ydynt, er enghraifft wedi eu marcio i fod yn hygyrch ar ddarllennydd sgrin.

Yn ôl rheoliadau hygyrchedd, nid yw’n  ofynnol ein bod yn trwsio dogfennau PDF ac eraill sydd wedi eu cyhoeddi cyn 23 Medi 2018 (dolen allanol)  os nad ydynt yn angenrheidiol i’n gwasnaethau.

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word y byddwn yn eu cyhoeddi yn cwrdd â safonau hygyrchedd.

Sut gwnaethom brofi’r wefan hon

Cafodd Merthyr.gov.uk ei phrofi ddiwethaf ar Ionawr 14, 2024. Cafodd y prawf ei wneud gan Silktide. Profwyd sampl o dudalennau a dogfennau PDF (125 tudalen ac 25 tudalen PDF.)

Rydym wedi sgorio 100/100 am hygyrchedd, mae 100% yn cydymffurfio â gwiriadau lefel A WCAG 2.2, 100% yn cydymffurfio â gwiriadau 2.2 lefel AA WCAG a 100% yn cydymffurfio â gwiriadau 2.2 lefel AAA WCAG.

accessibility-score-sept-2024

Accessibility Score

Rydym ar hyn o bryd yn cynnal profion ar bob tudalen o’r wefan gan ddefnyddio offer archwilio ac mae gennym hefyd ein hadroddiadau’n hunain sy’n defnyddio offer gwerthuso hygyrchedd WAVE ac AXE sydd yn estyniad google chrome. Bydd unrhyw dudalennau eraill yn cael eu profi gan defnyddio’r dulliau hyn hefyd. Mae’r profion yn cael eu gweithredu gan Dîm Datblygu’r We Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.