Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful - Datganiad o Gyfrifon Rhybudd Cymeradwyo Cyfrifon drafft - 2021-22

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 – Hysbysiad

Mae Rheoliad 10(1) yn Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y’u diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol bod Swyddog Cyllid Cyfrifol Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn llofnodi’r datganiad cyfrifon ac yn rhoi dyddiad arno, ac yn ardystio’i fod yn cyfleu darlun gwir a theg o sefyllfa ariannol y corff ar ddiwedd y flwyddyn ariannol y mae’n ymwneud â hi ac o incwm a gwariant y corff hwnnw am y flwyddyn honno. Yn ôl y Rheoliadau roedd yn ofynnol cwblhau hyn erbyn 31 Mai 2022.

Fe wnaeth y Swyddog Cyllid Cyfrifol lofnodi ac ardystio’r cyfrifon ar 29 Mehefin 2022.

Mae Rheoliad 10(2) yn Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y’u diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol, ar ôl yr ardystiad gan y Swyddog Cyllid Cyfrifol y cyfeirir ato uchod, bod, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cymeradwyo ac yn cyhoeddi’r datganiad cyfrifon archwiliedig. Yn ôl y Rheoliadau roedd yn ofynnol cwblhau hyn erbyn 31 Gorffennaf 2022.

O ganlyniad i’r achos o COVID-19, nid yw’r archwiliad o ddatganiad cyfrifon 2021-22 wedi cael ei gwblhau eto ac nid oes barn archwilio wedi cael ei darparu. Y datganiad cyfrifon anarchwiliedig yw’r datganiad cyfrifon a gyhoeddir. Mae Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 yn gwneud darpariaeth i awdurdod sydd yn gorfod oedi wrth baratoi a chyhoeddi ei gyfrifon ariannol blynyddol a thrwy rinwedd rheoliad 10 (4) caiff hysbysiad ei baratoi a’i gynnwys ar y wefan sy’n esbonio’r rhesymau dros hyn.

Cysylltwch â Ni