Ar-lein, Mae'n arbed amser

Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cynnwys deg awdurdod lleol: Blaenau Gwent; Pen-y-bont; Caerffili; Caerdydd; Merthyr Tudful; Sir Fynwy; Casnewydd; Rhondda Cynon Taf; Torfaen a Bro Morgannwg. Mae’r llofnodwyr ar gyfer y fargen hon yn gwireddu’r weledigaeth ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sef: “Cydweithio i wella bywydau’r bobl yn ein holl gymunedau. Byddwn yn gwneud y mwyaf o ran cyfleoedd i bawb ac yn gwneud yn siŵr ein bod yn sicrhau twf economaidd cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Diben y Pwyllgor

Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (BDPRC) yn Gyd-Bwyllgor o bob un o ddeg Awdurdod Lleol De Ddwyrain Cymru ac fe'i sefydlwyd er mwyn goruchwylio a chydlynu cyflawni rhwymedigaethau'r Cynghorau mewn perthynas â'r Fargen Ddinesig. Mae'r Cydbwyllgor Craffu yn cynnwys un Aelod anweithredol o bob Awdurdod Penodi.

Mae'r Cydbwyllgor Craffu yn cyfarfod i fonitro cynnydd prosiect (BDPRC) yn erbyn ei gynllun Rhaglen a gwneud adroddiadau ac argymhellion i'r Cabinet Rhanbarthol a / neu i unrhyw un o'r Awdurdodau Penodi ac i unrhyw un o'u gweithredwyr mewn perthynas ag unrhyw swyddogaeth sydd wedi'i dirprwyo i'r Cabinet Rhanbarthol yn unol â'r Cytundeb Cydweithio. Mae'r Cyd-bwyllgor yn cyfarfod hyd at 4 gwaith y flwyddyn.

Gellir dod o hyd i bob agenda ac adroddiad ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (fel gweinyddwyr y pwyllgor) gan ddefnyddio’r ddolen ganlynol:

Rhondda Cynon Taf 

Mae modd gweld y cylch gorchwyl yma.

Pwyllgor Cyd-Gabinet Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Diben y pwyllgor

Mae Mae Rhanbarth Prifddinas Caerdydd yn cynnwys deg awdurdod lleol: Blaenau Gwent; Pen-y-bont ar Ogwr; Caerffili; Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf; Torfaen; a Bro Morgannwg. Mae llofnodwyr y fargen hon yn gwireddu’r weledigaeth ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sef: “Cydweithio i wella bywydau pobl ym mhob un o’n cymunedau. Byddwn yn gwneud y mwyaf o gyfleoedd i bawb ac yn sicrhau twf economaidd cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Gellir dod o hyd i bob agenda ac adroddiad ar wefan Rhanbarth Prifddinas Caerdydd:

https://www.cardiffcapitalregion.wales/cy/news-events/digwyddiadau-ar-y-gweill/

Cysylltwch â Ni