Ar-lein, Mae'n arbed amser

Pwyllgorau Craffu

Byddwch yn llafar a gwnewch wahaniaeth...

Bod yn aelod cyfetholedig ar un o Bwyllgorau Craffu Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

  • Mae cynrychiolwyr y sector gyhoeddus - yn aelodau’r cyhoeddus unigol sy’n gallu dangos eu galli i ychwanegu gwerth at y drafodaeth a’r ddadl trwy sgiliau a’u gwybodaeth am faterion sylfaenol sy’n ymwneud â’r Cyngor.
  • Bydd angen i gynrychiolwyr y sector gwirfoddol gael - cytundeb gan y sefydliad gwirfoddol i bod yn aelod i weithredu fel eu cynrychiolydd.

E-bostiwch: scrutiny@merthyr.gov.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau.

Mae craffu yn derm ymbarél sy’n cwmpasu ystod eang o rolau sydd â chyfrifoldeb deddfwriaethol allweddol amdanynt:

  • Gwneud y Cabinet yn atebol
  • Adolygu a Datblygu Polisïau
  • Adolygu a chraffu perfformiad y Cyngor a helpu i gynnal gwelliannau mewn gwasanaethau
  • Craffu allanol

Mae’r pwyllgor trosolwg a chraffu yn swyddogaeth statudol ac mae’n helpu i sicrhau y cyflawnir gwasanaethau cyhoeddus lleol yn effeithlol ac yn effithlon a bod ganddynt ystod eang o rymoedd i ymchwilio i feysydd diddordeb lleol.

Gall y pwyllgor craffu holi’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau, galw ar dystion arbenigol neu glywed tystiolaeth o randdeiliaid eraill.  Nid yw ymchwiliadau wedi’u cyfyngu i wasanaethau’r Cyngor, gall cynghorwyr craffu ymchwilio i unrhyw faes sydd o ddiddordeb i’r gymuned leol.

Pwyllgorau Craffu’r Cyngor

Mae gan y Cyngor bum pwyllgor craffu

Cymryd rhan mewn cyfarfodydd y Pwyllgor Craffu

Mae gan Bwyllgorau Craffu drefniadau i ganiatáu i bobl sy’n byw neu’n gweithio yn ardal yr awdurdod lleol gymryd rhan yn y gwaith craffu

Gallech wneud cais i ddod yn aelod cyfetholedig o un o Bwyllgorau Craffu'r Cyngor. 

Fel aelod cyfetholedig byddwch yn cyfrannu i waith un o Bwyllgorau Craffu’r Cyngor sydd â Chynghorwyr etholedig ag aelodau cyfetholedig eraill. Byddwch yn defnyddio’ch sgiliau a’ch gwybodaeth o faterion a gwasanaethau oddi fewn i’r fwrdeistref sirol er mwyn cyfrannu i’r drafodaeth.

Nid oes cyflog na lwfans ar gyfer y rôl ond ad-dalir costau teithio, lle y credir ei fod yn rhesymol i wneud hynny.

Ni all pwyllgorau craffu:

  • Wneud penderfyniadau ar ran y Cyngor
  • Craffu penderfyniadau penodol y Pwyllgor Cynllunio, y Pwyllgor Trwyddedu a'r Pwyllgor Hawliau Tramwy y mae cyfrifoldebau gwneud penderfyniadau lled-farnwrol ganddyn nhw
  • Ymdrin ag ymholiadau, pryderon neu gwynion unigol. Os nad ydych yn fodlon ar wasanaeth neu os oes gennych gwyn, cysylltwch â’r swyddog perthnasol sy’n gyfrifol am y maes gwasanaeth hwnnw. Fodd bynnag, os nad ydych yn gallu datrys yr ymholiad defnyddiwch y drefn gwyno gorfforaethol neu soniwch wrth eich Cynghorydd lleol am y mater.

Cysylltwch â Ni