Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cais am Wybodaeth Amgylcheddol

Cyflwyno Cais

Gallwch gyflwyno cais trwy gyflwyno ffurflen gais ar-lein

Gallwch hefyd e-bostio’ch cais yn syth at y Swyddog Rhyddid Gwybodaeth ar FOI@merthyr.gov.uk

Am geisiadau trwy’r post anfonwch at y:

Swyddog Rhyddid Gwybodaeth
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Canolfan Ddinesig
Stryd y Castell
Merthyr Tudful
CF47 8AN

Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004

Mae Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn rhoi hawl i’r cyhoedd i wybodaeth amgylcheddol. Mae gwybodaeth amgylcheddol yn cynnwys gwybodaeth am yr aer, dŵr, pridd, tir, planhigion ac anifeiliaid, ynni, sŵn, gwastraff ac allyriadau. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am benderfyniadau, polisïau neu weithgareddau allai effeithio ar yr agweddau hyn ar yr amgylchedd.

Gwneud cais

Os na allwch ddod o hyd i’r wybodaeth rydych yn ei cheisio yn ein cofnod datgeliadau, gallwch gyflwyno cais yn syth i’r Cyngor.

Rhaid i’r cais fod yn ysgrifenedig a chael ei gyfeirio’n syth i’r Cyngor. Rhaid i bob cais am wybodaeth gynnwys y canlynol:

  • Enw cyswllt, rhif ffôn a chyfeiriad i anfon yr ateb ato.
  • Digon o wybodaeth a fydd i nodi’r union wybodaeth y mae gofyn amdani’n hawdd. Pan nad yw cais yn nodi’n glir pa wybodaeth y gofynnir amdano, byddwn yn gofyn am eglurhad pellach.
  • Ffafriaeth o ran sut i roi’r wybodaeth i chi, er enghraifft ar ffurf bapur, yn electronig ac ati.

Pan fyddwn yn cael eich cais mae galw arnom i ymateb ymhen 20 niwrnod gwaith. Efallai yr hoffwch ddefnyddio’r ffurflenni ar dudalen we’r Cyngor ar gyfer gwasanaethau ar-lein, yn benodol yr adran ceisio.

Derbyn yr Wybodaeth

Er y byddwn bob tro yn rhoi’r wybodaeth lle bo’n bosibl, bydd adegau pan fydd rheswm dilys dros fethu â’i rhoi. Gall fod oherwydd nad yw’r wybodaeth gennym y gofynnwyd amdani, neu fod un o’r eithriadau a nodir yn y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol yn gymwys. Os yw hyn yn wir byddwn yn cyflwyno esboniad ysgrifenedig llawn am y rheswm dros fethu â rhoi’r wybodaeth. Am ragor o wybodaeth am yr eithriadau ewch i’r drefn eithrio yn yr adran dolenni dogfennau ar ochr dde’r dudalen we hon.

Cysylltwch â Ni