Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cyngor ar y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth

Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo i fod yn agored yn ei weithrediadau. I’r diben hwn, mae’n gweithio i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i’r cyhoedd. Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi hawl mynediad i’r cyhoedd i’r wybodaeth sydd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a gall y cyhoedd gael copïau o’r wybodaeth hon hefyd.

Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004

Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn rhoi hawl i’r cyhoedd i wybodaeth amgylcheddol. Mae gwybodaeth amgylcheddol yn cynnwys gwybodaeth am yr aer, dŵr, pridd, tir, planhigion ac anifeiliaid, ynni, sŵn, gwastraff ac allyriadau. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am benderfyniadau, polisïau neu weithgareddau allai effeithio ar yr agweddau hyn ar yr amgylchedd.

Cofnod Datgeliadau

Mae Cofnod Datgeliadau y Cyngor yn rhestru ein hymatebion i geisiadau blaenorol dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 sydd o ddiddordeb i’r cyhoedd ehangach.

Gwneud Cais

Os na allwch ddod o hyd i’r wybodaeth rydych yn ei cheisio yn ein cofnod datgeliadau, gallwch gyflwyno cais yn syth i’r Cyngor.

Rhaid i’r cais fod yn ysgrifenedig a chael ei gyfeirio’n syth i’r Cyngor. Rhaid i bob cais am wybodaeth gynnwys y canlynol:

Enw cyswllt, rhif ffôn a chyfeiriad i anfon yr ateb ato.

Digon o wybodaeth a fydd i nodi’r union wybodaeth y mae gofyn amdani’n hawdd. Pan nad yw cais yn nodi’n glir pa wybodaeth y gofynnir amdano, byddwn yn gofyn am eglurhad pellach.

Ffafriaeth o ran sut i roi’r wybodaeth i chi, er enghraifft ar ffurf bapur, yn electronig ac ati.

Pan fyddwn yn cael eich cais mae galw arnom i ymateb ymhen 20 niwrnod gwaith. Efallai yr hoffwch ddefnyddio’r ffurflenni ar dudalen we’r Cyngor ar gyfer gwasanaethau ar-lein, yn benodol yr adran ceisio.

Derbyn yr Wybodaeth

Er y byddwn bob tro yn rhoi’r wybodaeth lle bo’n bosibl, bydd adegau pan fydd rheswm dilys dros fethu â’i rhoi. Gall fod oherwydd nad yw’r wybodaeth gennym y gofynnwyd amdani, neu fod un o’r eithriadau a nodir yn y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol yn gymwys. Os yw hyn yn wir byddwn yn cyflwyno esboniad ysgrifenedig llawn am y rheswm dros fethu â rhoi’r wybodaeth. Am ragor o wybodaeth am yr eithriadau ewch i’r drefn eithrio yn yr adran dolenni dogfennau ar ochr dde’r dudalen we hon. DOGFENNAU PWYSIG

Am ragor o wybodaeth mae dogfennau polisi ar gael yn yr adran Dolenni Dogfennau ar y dudalen hon a allai fod yn ddefnyddiol.

Cyflwyno Cais

Postiwch eich ceisiadau i: Swyddog Rhyddid Gwybodaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful Canolfan Ddinesig Stryd y Castell Merthyr Tudful CF47 8AN Gallwch hefyd e-bostio’ch cais yn syth at y Swyddog Rhyddid Gwybodaeth ar FOI@merthyr.gov.uk

Fel arall gallwch gyflwyno cais trwy gyflwyno ffurflen gais ar-lein gan ddefnyddio’r ffurflenni cais ar-lein canlynol:

Cais Rhyddid Gwybodaeth

Cais am Wybodaeth Amgylcheddol

Cysylltwch â Ni